Tuesday 1 March 2011

Annwyl Fyd - Yr Iaith Gymraeg


Annwyl Fyd,
Dwi wedi sôn ychydig gwaith yn y tameidia bach hyn o’m meddwl fy mod i’n Gymraeg. Nid yn unig hynny, ond yn siaradwr Cymraeg.
Pam ydw i’n sôn am hyn eto? Wel, mae hi’n ddydd Gŵyl Dewi ar y cyntaf o Fawrth. Ac fel yr ydym i gyd yn gwybod, Dewi Sant ydy nawddsant Cymru.
Dros y blynyddoedd diwethaf yma, mae wedi taro fi nad ydw i’n siarad fy mamiaith mor aml ac mor hyderus ac y dylwn i. Trwy fy mywyd addysg orfodol fe astudiais yn yr iaith Gymraeg, yn defnyddio geiriau syml fel “helo” a “does dim creision yn y cwpwrdd: i gychwyn, yna’n symud ymlaen i astudio barddoniaeth o’r enw Glas a Damwain ar gyfer TGAU.
Er, yn ystod fy nghyfnod yn y cartrefi addysgiadol sydd ag enw am gadw ein mamiaith yn fyw – neu, yn fyr, ysgolion Cymraeg – fe wnes i’r gwrthwyneb i ddweud y gwir, ddim yn siarad llawer o Gymraeg yn yr ysgol a byddai’r athrawon wedi hoffi.
A dyna’r peth, nac yw e? Os ydy rhywun yn dweud wrthyt ti drosodd a throsodd i wneud rhywbeth, ti’n fwy tebygol o wrthryfela. Dwi’n meddwl. Wel, dyna beth maen nhw’n ddweud wrthyf beth bynnag.
Y mwy clywais gan yr athrawon “Siaradwch Gymraeg”, y llai tebygol oeddwn o wneud hyn wedi iddynt fynd. Efallai mai dim ond fi ydy hyn, ond dyma oedd yn digwydd, os oeddwn i’n ymwybodol fy mod i’n gwneud hyn neu beidio.
Dim ond wrth gymryd y camau olaf o astudio fy Lefel A darodd y peth fi a sylweddolais fy mod wedi colli llawer iawn o bosibiliadau i siarad Cymraeg. Ceisiais siarad y lingo mor aml â phosib cyn y diwrnod terfynol. Ond gwae fi, roeddwn wedi colli’r cyfleoedd. Dwi nawr yn y brifysgol, ac yr unig un yn fy nghwrs sydd yn gallu siarad Cymraeg rhugl. Mae hefyd yn gwneud i mi deimlo’n ddrwg nad wyf wedi cyflwyno unrhyw erthyglau yn Gymraeg i CLIC na’i chwaer wefannau, gan nad oes hyder gen i o gwbl yn ysgrifennu Cymraeg.
Pam ydw i’n rhoi’r wybodaeth yma i gyd i ti? Pa ffwdan, dwi’n siarad Cymraeg, beth mae hyn yn arwain ato?
Wel, roeddwn i’n cael trafodaeth gyda chymar pobl ychydig yn ôl, a dyma un aelod o’r drafodaeth yn codi pwynt eithaf bisâr. Dywedom mai ei gred nhw oedd y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru roi diwedd ar y crwsâd o ddod â’r iaith Gymraeg yn ôl yn fyw a chanolbwyntio ar roi gwersi gramadeg ac atalnodi yn yr iaith Saesneg i ieuenctid heddiw.
Ychwanegom fod popeth yn marw rhyw bryd neu’i gilydd, a byddai’n well i’r iaith Gymraeg farw ynghynt yn hytrach na’n hwyrach.
A dwi’n eistedd yna yn meddwl… Beth?
Dyw hyn yn gwneud dim synnwyr i mi o gwbl.
Ia, dim ond ychydig dros bumed o boblogaeth Cymru sydd yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl, gyda’r mwyafrif o’r rheini yn byw yn Ynys Môn a Gwynedd, ond mae’n tyfu bob blwyddyn. Mae’r cyfanswm o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru wedi codi o 508,098 yn 1991 i 582,368 yn 2001. Mae’n helpu fod llawer o bobl ifanc rhwng pump a pymtheg oed yn gallu siarad yr iaith (40.8% i fod yn fanwl). Golygir hyn fod mwy o bobl ifanc yn astudio yn yr iaith.
Mae’n rhaid bod hyn yn golygu bydd ieuenctid heddiw yn cario’r fflag i wneud Cymru gyfan yn gwbl Gymraeg? Nid os oes ganddo’r meddylfryd soniais amdano gyna.
Os byddai’n iaith farw, yna efallai byddwn i wedi cytuno gyda’r adnabyddiaeth ddienw cefais y drafodaeth yma gyda nhw. Os byddai’r statudau i gyd yn dangos fod y cyfanswm o siaradwyr Cymraeg yn gostwng bob deg mlynedd, yna efallai byddwn i ychydig yn fwy tyner tuag atynt pan maen nhw’n dweud dylai’r Llywodraeth Cynulliad Cymraeg ganolbwyntio ar ramadeg Saesneg. Ond nid yw’n gostwng. Mae’n tyfu. Ac, gobeithio, bydd wedi tyfu hyd yn oed fwy na’r cyfrifiad diwethaf yn 2001. Ond, bydd rhaid disgwyl i weld beth mae statudau cyfrifiad eleni yn dweud wrthym am yr iaith Gymraeg,
Dwi yn deall, ar y llaw arall, pam eu bod wedi dweud beth ddwedant. Mae’n bwysig rhoi addysg dda i ieuenctid Cymru. Mae hefyd yn bwysig rhoi gramadeg da iddynt. Ond, i fod yn gwbl onest, ydy hyn werth aberth iaith sydd yn rhoi dimensiwn hollol newydd i Gymru er mwyn rhoi dealltwriaeth well o’r iaith Saesneg i’r ieuenctid?
Dwi ddim yn meddwl.
Diolch i ti, fyd.

No comments:

Post a Comment