Friday 18 March 2011

Annwyl Fyd - Gyrfaoedd


Annwyl Fyd,
Dwi’n un deg naw oed, ac felly wedi bod yn meddwl am y swydd ddelfrydol i mi.
Pan oeddwn yn ifanc, roeddwn wedi meddwl bod yn bensaer. I fod yn onest, tua chwech oed oeddwn i a doedd gen i ddim syniad go iawn beth mae pensaer yn ei wneud, dwi’ meddwl mai’r ffaith oedd fy mod yn hoffi’r gair.
Fel roeddwn yn tyfu, roedd y syniad o swydd ddelfrydol yn newid i mi. Un tro, fe gysidrais beidio cael swydd arferol ac anelu am yrfa mewn criced, er cyfnod byr iawn oedd hyn, a dwi’n beio rhai pobl yn y clwb criced roeddwn yn aelod ohono am y ffaith hon.
Wrth i mi gychwyn blynyddoedd TGAU fy mywyd, o’r diwedd darganfyddais yr yrfa i mi – dylunio graffig. Dim syniad pam darodd hyn fi, efallai mai’r golygu delweddau diddiwedd roeddwn yn ei wneud ar yr adeg oedd o.
Nawr, dwi ar y llwybr i gael swydd yn y diwydiant dylunio graffig. Dwi’n astudio Technoleg Greadigol yn yrATRiuM (cyfadran Caerdydd o Brifysgol Morgannwg), sydd yn edrych ar wahanol agweddau amlgyfryngau fel fideo, radio, y rhyngrwyd a graffig.
Dwi hefyd yn cymryd rhan fawr yn Wicid, sydd yn helpu fi i fagu hyder yn ysgrifennu a phethau eraill mewn ffordd eithaf rhagorol. [A joban dda iawn ti’n gwneud hefyd, Crazy D! – gol cenedlaethol]
Fe wyliais sioe deledu ar BBC Three noson o’r blaen. Junior Doctors: Your Life In Their Hands, ac mae’n dangos grŵp o feddygon myfyrwyr a’u siwrne i ddod yn feddyg yn eu pwnc dewisol, bod hynny yn llawfeddygaeth neu feddygaeth.
Fe wnaeth i mi feddwl, fel llawer o bethau eraill mewn bywyd, pa fath o help fydd fy swydd i fel rhan o ddatblygiad y dras ddynol?
Edrycha ar y gwahanol genre o yrfaoedd sydd allan yna. Mae doctoriaid yn helpu gwella’r rhai sydd wedi anafu, tra mae dynion tân yn mentro eu bywydau i achub pobl a diffodd tanau. Mae’r heddlu yn gwneud yn siŵr fod pawb yn cadw at y gyfraith.
Mae hyd yn oed cerddorion yn gwneud pethau da at ddynoliaeth. Wel, weithiau beth bynnag. Mae rhai cerddorion yn dod a heddwch a llawenydd i’r mwyafrif o bobl, tra mae eraill, llai talentog yn dylanwadu ar eraill i ymuno llwybr gyrfa gerddorol i ddangos iddynt sut mae gwneud yn iawn.
Ac yna mae fi, yn eistedd yn fy ystafell, gyda Photoshop neu Illustrator ar agor ar fy nghyfrifiadur a dwi’n meddwl i fi fy hun “am fyd rhyfeddol”. Wel, nid mewn gwirionedd, dwi’n meddwl “beth dwi’n wneud?”
Dwi’n gwybod, efallai fy mod yn hollol anghywir gyda hyn, ond yr unig beth dwi wedi gweld dylunydd gwe neu rywun o ddylanwadu eraill ydy drwy ddylunio gwefannau neu astudio’r llawenydd teipograffeg. Ac ydw, dwi yn siarad o brofiad. Yr unig beth ddywedaf ar y mater hwn ydy “Myriad Pro i ennill”. Hynny a “dweud na wrth gyffuriau a Comic Sans.”
Er, nid dyma’r unig beth i groesi fy meddwl.
Nawr, os wyt ti wedi cyfarfod fi mewn person, mae’n eithaf hawdd gweld nad wyf yn un o’r bobl yma sydd yn cymryd balchder yn ei olwg. Dwi ddim yn gweld y pwynt, os dwi’n hollol onest gyda thi. Oes, mae rhaid i ti fod yn weddus, ond ni fyddwn ymhell iawn o’r gwir os byddwn yn dweud fod rhai pobl yn mynd ar peth i’r eithaf.
Yn un o fy swyddi delfrydol, bod yn ddylunydd graffig neu we, fy ngwaith fydda creu gwefannau neu raffeg sydd yn edrych yn lyfli. Efallai bydd gen i hyd yn oed gwaith yn brwsio aer modelau. Dwi’n meddwl ei fod yn od fod fy swydd ddelfrydol yn wrthgyferbyniad hollol ohonof i fy hun. Mae’r swydd yn ddibynnol hollol ar olwg pethau, tra dwi ddim. Wyt ti’n meddwl fod hynny yn ‘match made in Heaven 2.0’?
Cyn i mi ymadael â thi, Fyd, mae’n rhaid i mi gyfaddef na nid dylunio graffeg ydy fy swydd ddelfrydol bennaf. Na, y diwydiant cerdd ydy honno, er mae hi bob tro yn ddefnyddiol cael cynllun tu cefn yn tydi?
Ers i mi ddysgu chwarae offeryn – dros dair blynedd yn ôl nawr, teimlo fel dau a hanner yn unig… - dwi wedi bod eisiau bod mewn band. Dwi wedi perfformio efo band, ond nid yw Eisteddfod yr ysgol yn cyfri fel taro’r top, ond mae’n gychwyniad er hyn.
Yn y blynyddoedd diweddar, dwi wedi bod yn chwilio am rywun i helpu fi gyda’r caneuon dwi wedi ysgrifennu. Ia, i ychwanegu mwy o lafoerio i’r miliynau o terabeitiau o gynnwys dibwynt ar y rhyngrwyd, dwi wedi creu a llwytho ychydig o ganeuon. Ond, nid oes geiriau iddynt.
Ers y can cyntaf ysgrifennais (gyda’r teitl digonol “Argh”), dwi wedi bod yn chwilio am ganwr/ysgrifennydd caneuon i helpu fi ysgrifennu geiriau i’m nghaneuon. Fydda ti’n hoffi helpu fi, annwyl fyd?
Diolch i ti, fyd.

No comments:

Post a Comment