Monday 29 November 2010

Annwyl Fyd - Cenedigrwydd


Annwyl Fyd,
Os nad oeddet ti’n gwybod, dwi’n Gymro. Mae’n wir. Mae gen i dystysgrif geni a phopeth.
Nid yn unig hynny, cefais fy ngeni i mewn i deulu oedd yn siarad Cymraeg.
Wel, dwi’n dweud hynny, dwi’n golygu cefais fy ngeni i mewn i deulu penderfynodd rhoi eu plant i mewn i ysgol Cymraeg. A dwi’n falch fod gen i’r gallu i siarad Cymraeg.
Ond mae yna rywbeth dwi ddim yn ddeall yn iawn. Pam fod cymaint o gasineb yn erbyn pobl cafodd eu geni mewn gwlad wahanol?
Mae’n deg dweud fod, fel fi, ar ryw gyfnod mewn amser, cefais di dy eni hefyd. Er gallaf fod yn o leiaf saithdeg y cant yn bositif nad oes neb ar wyneb y ddaear efo dewis i gael eu geni lle cawsant.
Ni allaf gofio, wythnos cyn i mi gael fy ngeni, gyrru neges i ymennydd fy mam trwy’r llinyn bogail yn dweud “dyma ni, cariad, gei di ollwng fi yn fan hyn”.
Na, nid oes neb wedi gwneud hynny. Os byddai’r gallu hwn gennym, yna byddwn i gyd mewn bywyd gwahanol i beth rydym nawr. Ond nid yw’n gwneud synnwyr i fi pan fydd rhywun o wlad benodol, gad i ni ddefnyddio Prydain fel esiampl, yn rhefru am sut na ddylai bobl estron fod yma.
“Y diawl Pwyliaid yna”, perchennog ystâd dosbarth uchaf, efallai o’r enw Sebastian, yn cychwyn. “Damnia, pam fod rhaid i ni agor y drws i Ewrop gyfan? Pam fod rhaid i’r Pwyliaid uffern yna ddod i’n gwlad ni, yn cymryd ein swyddi ni?”
Mae Edward, enw arall posib i berson arall posib gallai o bosib fod yn berchennog ystâd mewn lle ofnadwy o gain ym Mhrydain, gall o bosib ymateb i’r sylwad posib yna gyda’r Sebastian realistig o bosib gyda’r canlynol. O bosib.
“A ni fyddent yn stopio gyda’r Pwyliaid, Seb”, mae Edward yn cael caniatâd i alw Sebastian gyda sillaf gyntaf ei enw. Edward ydy tad Sebastian o bosib, wedi’r cwbl.
“Seb, gwranda arnaf i. Nid y Pwyliaid yn unig sydd yn dod yma, chwaith. Mae yna eraill. Ac i be? I ddwyn swyddi oddi wrth bobl Brydeinig sydd yn gweithio’n galed ac i wneud y wlad wych yma yn uffern.”
Mae’r gwas, fydd yn cael ei alw’n Jeeves gan na fedraf feddwl am enw gwell am was, a hefyd yn ddyn Pwylaidd cyfrinachol ei hun, yn cwestiynu pam fod ganddynt y gadwyn meddwl yma. “Pam fod chi’n meddwl fel hyn, syrs?” gofynnai. Mae newydd gerdded i mewn i’r rhefru.
“Beth? Dyna wyt ti eisiau, jeeves? Wyt ti eisiau enwau estron i gyd, heb allu i ddarllen nac ysgrifennu’r iaith Saesneg gwych, gerdded ein strydoedd? Dyna wyt ti eisiau? Wyt ti’n siŵr hoffet ti gael rhyw Almaenwr yn cerdded i mewn i Brydain fel petai’r Ail Ryfel Byd erioed wedi digwydd? Dyna wyt ti eisiau? Nid dyma ydw i eisiau. Dwi ddim eisiau unrhyw bobl estron yn dod yma, yn dwyn ein swyddi, yn bwyta ein bwyd, yn cysgu yn ein gwlâu.
“Ac os fyddi di byth yn rheoli’r wlad wych hwn rhyw ddydd, Jeeves, ac yn caniatáu i ddrysau Prydain cael eu hagor i bawb, mae’n canlyn mewn pobl afreolus yn malu fy ystâd gan-acr, yn bwyta fy ffesant, yn treisio fy Mildrid, ac yna fe fyddi di allan o waith. Wyt ti’n deall?”
Gwiriondeb
Beth rwyf yn feddwl ydy, dydy pobl fel hyn ddim yn gwneud unrhyw synnwyr i mi. Dydy’r ffaith fod pobl estron yn y wlad ddim yn golygu ei fod wedi mynd i fyny mewn fflamau. Pam na allet ddeall hynny? Nid yn unig hynny, dwi’n meddwl ei fod yn eithaf doniol pan mae Americanwyr yn meddwl fel hyn.
Nid ydynt eisiau pobl estron yn eu gwlad? Wel, yn dechnegol, na ddylai pob Americanwr symud, gan eu bod i gyd yn hynafiad o fewnfudwyr?
Ar drywydd gwahanol, pam fod pobl yn casáu tîm chwaraeon gwlad arall, am eu bod nhw o wlad arall?
Esiampl dda o hyn ydy’r Cwpan Byd FIFA diweddar. Pan roedd gêm oedd yn cynnwys Lloegr, roedd ychydig o sylwadau dwi wedi’i ddarllen gan cyd-Gymru oedd eisiau i rywun heblaw am Loegr ennill y gêm. Am ba bwrpas? Am mai Lloegr oedd o.
Dim oherwydd bod y tîm yn ddiffyg yr awydd i ennill, na’r ffaith fod canol y cae yn ddiffyg sylwedd, na. Am fod y chwaraewyr i gyd oedd yn chwarae i Loegr yn, yn rhyfeddol, Saesneg.
Ble mae’r rhesymeg yn hynny? Iawn, doeddwn i ddim eisiau i Loegr ennill y Cwpan Byd, ond dim ond am fy mod yn teimlo fod gan yr Almaen ochr gwell. Ond gallaf gyfaddef fod Lloegr yn dîm gweddus ac, os byddent ar eu gorau, wedi gallu mynd yn bellach yn y gystadleuaeth.
Dyna ddigon am y cwestiwn ‘pam fod pob gwlad efo’r potensial i gasáu ei gilydd?’
Fel soniais cynt, dwi’n Gymro. Nid yn unig hynny, dwi’n gallu siarad yr iaith hyfryd o Gymraeg. Mae’n wir.
Efallai pam fyddaf yn siarad Cymraeg byddai’r frawddeg yn debygol o wneud pob siaradwr Cymraeg arall ymgreinio mewn poen. Ond dyna sut fydda i’n teimlo pan fyddaf yn ceisio siarad Cymraeg. Gan nad yw fy ngallu yn yr iaith ddim mor uchel ag y hoffwn, dwi’n teimlo fod pawb yn barnu fi am fy niffyg sgiliau Cymraeg.
Gallaf ddarllen o’n iawn, dwi’n gallu ei ddeall yn berffaith. Ond mae yna un peth na allaf wneud yn hyderus, a dyna yw siarad ac ysgrifennu yng Nghymraeg.
Mae’n teimlo fel fy mod yn cael fy marnu pob tro dwi’n siarad Cymraeg. Nid oes gen i syniad pam fod hyn. Dwi bob tro’n tybio fod y person dwi’n siarad Cymraeg iddo, pwy bynnag ydynt, yn meddwl fy mod yn llofruddio’r iaith Gymraeg. Os ydy rhywun yn gwybod pam, atebion yn yr adran sylwadau, plîs.
Dwi wedi ysgrifennu llawer o erthyglau i Wicid, gyda rhai yn mynd ar CLIC [gan gynnwys hwn, woop! – gol cenedlaethol]. Nid yw’r un o’r rhain yn Gymraeg. Maen nhw i gyd yn Saesneg. Hyd yn oed pam mae’r erthyglau hyn yn cael eu cyfieithu i Gymraeg, dim fi ydy hwnnw. Ac, am ryw reswm od, dwi ddim yn hapus gyda hyn.
Hoffwn yn fawr iawn os byddwn yn gallu ysgrifennu yn Gymraeg, wir ar. Ond gwae fi, mae fy sgiliau i roi brawddegau at ei gilydd yng Nghymraeg yn dirywio pob dydd, ac nid yw’n helpu fy mod mewn cwrs yn y brifysgol lle nad oes neb yn gwybod Cymraeg. Damnia fo ac ati.
Diolch i ti, fyd.

Sunday 21 November 2010

Annwyl Fyd - Bywyd Modern


Annwyl Fyd,
Dwi wedi sylwi ychydig o bethau wrth i mi fyw fy mywyd.
Y peth cyntaf ydy fod Firefox efo gwiriwr sillafu a dwi’n credu ei fod wedi ei osod i Saesneg Americanaidd, ac nid Saesneg Cymraeg.
Damnia ti, y cadno o fflamau…
Hefyd, dwi wedi cychwyn cael rhyw syniad o fywyd o beidio siarad os nad oes rhywun yn siarad gyda thi. Ti’n gwybod. Mae fel nad oes gen i ddim byd diddorol i siarad amdano (ac fe fyddet yn cytuno os wyt ti wedi darllen fy mlog, nid oes dim diddorol yna… dim ond y bisâr…), felly pam siarad? Pam rhoi baich ar eraill gyda gwybodaeth ddiwerth sydd yn, wel, diwerth? Wedi dweud hynny, nid yw hyn yn meddwl na fyddaf yn siarad yn ôl os wyt ti’n siarad gyda fi, ond dwi ddim yr ymddiddanwr gorau.
Dwi ddim yn gallu meddwl am adeg ble gychwynnais sgwrs gyda sylwad. Mae bron bob tro wedi bod yn gwestiwn. Gofynna i Olygydd CLIC neu Wicid, a byddent yn debygol o gytuno. Mae bron pob e-bost dwi wedi ei yrru iddynt, wedi gofyn cwestiwn. Yr unig adeg arall pan dwi wedi cychwyn sgwrs ydy pan dwi’n dweud rhywbeth wrth rywun, fel ‘Mae gen i’r peth yna ti wedi gofyn amdano’, neu ‘mae rhywun yn chwilio amdanat ti’ neu wybodaeth fel hynny.
Fedra i ddim cofio cychwyn sgwrs gyda rhywbeth fel “o, roedd Chelsea yn ofnadwy neithiwr” neu “dwi’n crefu McDonalds”. Nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr i mi i gychwyn sgwrs fel hyn. Yn ychwanegu at y ffaith nad wyf yn mynd allan llawer, dwi ddim yn gwylio llawer o ffilmiau ac ati, nid oes gen i lawer i siarad amdano. Iawn, os byddet yn gofyn i mi am Photoshop neu sut i gyflawni trosglwyddiad sbin coes mewn criced, yna gallaf helpu. Ond dwi yn eithaf anobeithiol pan ddaw i sgyrsiau ‘normal’.
Ac, i fod yn deg, mae’r delfryd wedi mynd drwodd i Fywyd 2.0 neu i’r bobl sydd ddim yn deall, bywyd ar-lein. Mae’n swnio’n eithaf truenus, ond dwi’n trio cadw ataf i’n hun ar Facebook ac ati. Dwi’n dileu unrhyw beth ar fy wal dwi ddim yn hoffi, neu sydd yn dweud fy mod wedi gwneud rhywbeth. Dwi wedi mynd cyn belled â dileu rhai grwpiau roeddwn i’n ffan ohonynt am nad oeddwn yn gweld pwrpas iddynt. Dydy’r ffaith dy fod yn canu yn uchel i ganeuon ddim yn golygu bod ymuno grŵp gyda phawb arall sydd yn gwneud hyn yn dy wneud yn uwchraddol na phawb sydd ddim yn ei wneud. Neu beth bynnag yw’r rheswm am ymuno’r grŵp. Os yw’n ffordd o gyfarfod pobl newydd, nid hwn yw’r ffordd gorau. Dwi newydd sylwi fy mod yn rhefru am rywbeth eithaf dibwynt.
Wedi dweud hynny, mae gen i gyfrif Twitter. Ar y pwynt o ysgrifennu’r annwyl lythyr hwn i ti, fyd, dwi wedi gwneud 2,402 tweet. Dwi wedi rhannu bron i ddau fil a hanner o feddyliau gyda’r we. Ond am rhyw reswm, dwi bron byth yn diweddaru fy statws Facebook. Dwi ddim yn gwybod pam. Wel, mae hynna’n gelwydd llwyr, dwi’n gwybod yn union pam. Ni allwn ddweud celwydd wrthyt ti.
Y rheswm na fyddaf yn newid fy statws ar Facebook ydy fy mod yn adnabod yr holl bobl dwi’n ffrindiau gyda nhw ar Facebook. Ac mae’r bobl dwi’n ffrindiau gyda nhw ar Facebook yn ymddangos fel bod rhyw fath o gytundeb yna pam fyddaf yn derbyn cais ffrind (neu mae ffrind yn derbyn fi). Dwi ddim yn derbyn eu cyfeillgarwch yn unig, dwi’n gwneud mwy na hynny. Dwi’n arwyddo cytundeb rhith, sydd y clymu fi i wybod beth sydd yn digwydd yn dy fyd di, ac i’r gwrthwyneb. Gyda Twitter, gall ddewis dilyn pwy bynnag hoffet, ac efallai na fyddent yn dilyn ti yn ôl. Ydw, dwi yn dilyn rhai o fy ffrindiau ar Twitter, ac maen nhw yn dilyn fi (am ryw reswm), ond dewis ydyw. Os ydw i’n penderfynu dwi ddim eisiau dilyn ti, gallaf stopio. Os dwi ddim eisiau bod yn ffrind i ti ar Facebook, mae’n fwy tebygol bydd y person wedi cythruddo na os fyddwn i wedi stopio dilyn nhw ar Twitter. Mae’n anoddach darganfod person sydd wedi stopio dilyn ti ar Twitter nag i ffeindio cyn-ffrind ar Facebook. Ac am ryw reswm, dwi’n hoffi’r ffaith hyn.
Am ryw reswm, mae dadlau bach wedi bod yn y gorffennol (ac na, wedi meddwl). Dwi ddim yn gwybod am beth, nac yn pryderu am hyn. Ond fe ddywedaf un peth, os byddai pawb yn dysgu cau eu cegau (neu, o leiaf meddwl beth maen nhw'n ei ddweud cyn ei ddweud), byddai’r byd yn le gwell, Neu o leiaf yn le distawach. Ond na, rydym yn byw mewn gwareiddiad ble mae rhyddid i siarad yn rhoi hawl i bobl beidio meddwl beth maen nhw am ei ddweud.
Weithiau, dwi’n meddwl byddai wedi bod yn well os na fyddai dynoliaeth wedi symud ymlaen mor sydyn. Dwi’n gwybod fod hi wedi cymryd miloedd o flynyddoedd, ond oherwydd hyn rydym yn lle rydym heddiw. Beth dwi’n golygu ydy, yr oes hon ydy’r oes lle nad oes brwydr go iawn am oroesiad, dim problemau dydd i ddydd sydd yn bygwth bywyd (os nad wyt ti’n un o’r bobl yna sydd yn credu fod diwrnod gwallt drwg yn rheswm rhesymol i ladd dy hun… ac os wyt ti, ti angen help). Yr unig beth mae pobl (wel, y rhan fwyaf o bobl, fel mae’n ymddangos i fi) yn poeni amdano ydy cael yn ‘high’, piso (neu feddwi) a chael rhyw.
Os byddwn ni yn yr un oes â phobl Oes Y Cerrig, byddai rheswm i frwydro, rheswm i ofni. Ond, os wyt ti’n meddwl fod balwnau a chlowniau yn rheswm i ofni, nid yw’r un peth â ofni gall dy deulu farw o ryw firws anadnabyddus neu wedi cael eu lladd yn eu cwsg.
Byddwn i wedi marw flynyddoedd yn ôl os byddwn yn byw’r bywyd hwnnw, ac eto, ni fyddet yn darllen hwn. Fel mae dynoliaeth yn symud ymlaen, mae’r angen i fod yn ymwybodol yn lleihau. Os yw hynny yn gwneud synnwyr.
Dwi ddim yn gwybod amdanat ti, ond dwi ddim yn gallu cofio’r tro diwethaf i mi fynd i’r gwyllt, a dychwelyd gyda mamoth i fwyd, Nid oes angen gwneud hyn nawr. Yr anifeiliaid mwyaf rydym yn eu lladd am fwyd ydy’r fuwch mae’n debyg. Efallai fy mod yn anghywir gyda’r ffaith yna, ond dwi’n golygu, nid oes angen i ni fyd i hela anifeiliaid peryglus am gwyd. A beth ydym yn ei wneud i lenwi’r bwlch hwn? Rydym yn lladd rhywogaeth ein hunain mewn rhyfeloedd am ein bod yn farus. Beth mae dynoliaeth wedi dod iddo?
Diolch i ti, fyd.

Monday 15 November 2010

Annwyl Fyd - Duw


Nodyn – Dwi’n trafod Duw a chrefydd yn fan hyn, er dwi ddim yn trafod unrhyw grefydd benodol (os nad fynegwyd fel arall). Dwi ddim yn grefyddol, felly gan gysidro hyn, plîs paid pechu efo unrhyw beth dwi’n ddweud. Plîs cadwa feddwl agored wrth ddarllen hwn, a gobeithio ti’n hoffi’r erthygl.
Annwyl Fyd.
Dwi’n gwybod mai dim ond am un deg naw mlynedd yn unig dwi wedi bod yn cerdded y byd hwn, ond mae un pwnc sydd yn drysu fi.
Oes.
Duw.
Wel, Duw a chrefydd.
Un peth dwi ddim yn deall yn iawn ydy hyn. Dychmyga os byddwn i yn marw nawr, ac os byddai’r peth crefydd yma yn wir, a byddwn yn troi i fyny o flaen giatiau nefoedd gyda dau i bobl eraill. Mae’r cyntaf, efallai o’r enw Sue, yn ddynes grefyddol, ac wedi bod ers genedigaeth. Mae’r ail, gall fod yn Trefor, yn dreisiwr ac yn llofruddiwr.
Mae tri ohonom yno, yn edrych ar giatiau’r nefoedd, ac rydym yn clywed llais yn dweud, am ryw reswm mewn steil y sioe gêm ‘The Price Is Right’ “bydd un ohonoch yn mynd yn syth i uffern, bydd y gweddill yn mynd yn syth i’r nefoedd ac yn mwynhau bywyd tragwyddol gyda dy greawdwr”.
Wrth i’r tri ohonom ddod i adnabod ein gilydd, y consensws cyffredin ydy mai Trefor fyddai’r un fwyaf tebygol i fynd i uffern, gan ei fod wedi treisio a llofruddio.
Ond, beth ydy hyn?
Mae fy enw yn cael ei alw?
Pam?
Beth ydw i wedi’i wneud?
Mae’r llais ymchwyddol yn dychwelyd… “Doeddet ti, Gareth, ddim yn credu mewn Duw. Ac felly am hynny, ti yn cael dy gondemnio i dreulio tragwyddoldeb yn fflamau uffern.”
Dwi ddim yn gwybod dim amdanat ti, ond os oeddwn i yn farw, a dyna fyddai’n digwydd, byddwn i wedi cythruddo. Dwi ddim wedi gwneud dim o’i le. Felly pam ydw i yn mynd i uffern? Wel, mae’n amlwg, yn tydi?…
Ydy o?
Wel, roedd y tri ohonom yn gwybod fod Sue am gael i mewn. Ond doedd yr un ohonom yn gwybod fod Trefor wedi edifarhau am ei bechodau tua blwyddyn cyn iddo farw, ac fe gafodd i mewn i’r nefoedd. Tra’r unig beth dwi wedi’i wneud ydy byw bywyd di-drosedd, a dwi dal yn cael fy ngyrru i dreulio tragwyddoldeb yn uffern, i gyd am fy mod wedi ei chael yn anodd credu mewn unrhyw fath o grefydd.
Dwi ddim yn gwybod amdana ti, annwyl fyd, ond pa blaned gall sydd yn gadael i dreisiwr a llofruddiwr gael i mewn i’r nefoedd am ei fod wedi dweud  “dwi’n sori”? Dwi yn wastad wedi meddwl  fod y rhai da i fod i gael eu gwobrwyo, tra mae’r drwg yn cael eu cosbi. Efallai fy mod i’n ddiniwed nawr, ond ni fedraf i weld sut gall peidio cael ffydd mewn Duw yn drosedd gwaeth na threisio, pedoffilia a llofruddiaeth. Ond, os ydy pedoffeil (er esiampl) yn dewis dweud “Maddeua i mi, fy arglwydd,  am fy mhechodau”, mae’r person hwnnw efo llwybr pendant i’r nefoedd? Ble mae’r callineb yn hynny?
Dwi ddim yn gweld fy hun yn bod yn grefyddol byth, ond ni allaf fod yn sicr. Pan gychwynnais i’r Ysgol Uwchradd, nid oedd gen i unrhyw ddiddordeb mewn celf a cherddoriaeth. Nawr dwi’n astudio Technoleg Greadigol, yn dylunio amryw bethau ac yn creu cerddoriaeth fy hun (ond dim ond y gerddoriaeth, dwi ddim yn gallu ysgrifennu geiriau’r gân o gwbl). Dim rheswm pam dwi wedi dweud hyn wrthyt ti, dim ond ei fod yn dangos fod pobl yn newid, hyd yn oed os ydy’r esiampl dwi’n ei roi yn un sâl.
Ond, ar linell crefydd, dwi ddim yn gallu gweld fi'r dyfodol yn bod yn grefyddol. Pam dwi’n darllen neu’n dysgu rhywbeth am grefydd, nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr i mi.
Un esiampl ydy yn ystod priodasau, mae’n dweud (os ydw i’n cofio yn iawn) fod merched yn cael eu rhoi i’r gwŷr. Roeddwn yn meddwl mai undeb o ddau o bobl mewn cariad (heterorywiol neu hoyw) oedd priodas i fod, i fyw eu bywydau mewn hapusrwydd gyda'i gilydd, nid i ddyn fod yn berchen ar ei wraig (dwi ddim yn sicr sut byddai hyn yn gweithio mewn priodas hoyw, ond efallai ei fod yr un peth).
Rhywbeth arall sydd yn drysu fi. Mae Duw i fod yn ‘endid perffaith’ yntydi? Rhywun sydd yn gallu gwneud dim o’i le? Felly, pam fod pobl ofn Duw?
Do, fe wnaeth Ef y ras dynol (dwi ddim yn credu hyn, dwi’n defnyddio beth mae crefydd yn credu i ddadlau fy ochr). A pan mae’r ras dynol yn gwneud pethau, rydym eisiau bod gyda meistrolaeth (er esiampl, yn feistr o robotiaid a thechnoleg ddigidol). Rydym hyd yn oed wedi meistroli ras ein hunain (e.e. caethwasiaeth). Felly os ydy hyn yn anghywir, i fod mewn meistrolaeth, neu i fwlio eraill i wneud ein gwaith… byddai Duw yn gwneud yr un peth, gan mai ef ‘wnaeth’ y ras dynol?
A rhywbeth arall. Mae un o’r deg gorchymyn y ffydd Gristnogol ydy, dwi’n credu, i beidio addoli cerfluniau o Dduw (cywira fi os ydw i’n anghywir). Ond, fel ras dynol rydym i fod wedi ein gwneud gyda delwedd Duw neu rywbeth fel hynny, dyw hyn ddim yn golygu fod unrhyw gerflun sydd yn cael ei wneud yn addoli delwedd pwnc y cerflun a hefyd Duw ei hun?
Dwi’n gwybod, fyd. Dwi’n meddwl llawer gormod. Byddai’n well gen i feddwl gormod nag dim meddwl o gwbl. Dwi’n gobeithio fod hyn ddim wedi tramgwyddo unrhyw un, dim ond un un deg naw oed sydd wedi drysu efo crefydd ydw i. Rhywun eisiau helpu?
Diolch i ti, fyd.

Monday 8 November 2010

Annwyl Fyd - Alcohol A Chyfuriau


Rhybudd – Mae yna rywfaint o regi yn yr un yma. Felly os wyt ti’n anhoffus o unrhyw air sydd yn gryfach na fiddlesticks, yna efallai na fyddi di yn cymeradwyo’r iaith yn yr erthygl hon. Nid yw’n cael ei wneud i ffieiddio, felly plîs cymera fo'r ffordd mae wedi’i fwriadu, Diolch am ddarllen, a mwynha weddill y post hwn.
Annwyl Fyd,
Fel yr wyt ti efallai yn ei wybod, os wyt ti wedi darllen fy llythyr diwethaf i ti, dwi yn flwyddyn olaf y cyfnod sydd yn cael ei adnabod fel ‘y blynyddoedd arddegau’. Ac, os wyt ti yn un sydd yn darllen nifer o bapurau newydd ac yn cysidro nhw i fod yn wir, dwi yn lleiafrif yn ei arddegau.
Pam?
Wel, am un peth, dwi ddim yn ysmygu (cyffuriau na sigaréts cyffredinol). Ac yn ail, dwi ddim yn yfed alcohol.
Efallai nad yw’r un cyntaf yn gymaint o sioc â’r ail, os wyt ti’n gallu ei alw’n ‘sioc’. Dwi’n deall nad yw bob person ifanc yn ysmygu. Ond, er ei bod hi’n anghyfreithlon i rywun dan un deg chwech (cywira fi os dwi’n anghywir) brynu sigaréts, mae yn parhau i ymddangos fel rhywbeth ffasiynol i wneud.
Efallai bod rhai pobl yn meddwl ei fod yn ffurf o wrthryfela. Fedri di ddim cael rheolaeth arnaf i nag beth dwi’n anadlu i mewn, meddai’r ferch ifanc, efallai o’r enw Simone, wrth iddi sugno anadl arall i mewn wedi’i lenwi gyda charbon a nicotin. Ymladd y pŵer, dyn ifanc, efallai o’r enw Jason, wrth iddo rolio ei drydedd sigarét mewn hanner awr. Ac wrth iddynt ysmygu eu ffordd i mewn i dymer drwg eu rhieni, ac yn gyd-ddigwyddiadol potensial achos eu marwolaeth, maen nhw i weld yn fodlon yn eu cred eu bod yn ymladd yr hawl i bartio.
Efallai fod hyn yn wir gydag alcohol. Un ai hynny neu bwysedd cyfoed.
Dwi wedi gweld pwysedd cyfoed o lygad y ffynnon. Yn enwedig gydag alcohol. Fe es i barti, y cyntaf es iddo wrth astudio am fy Lefelau A. Roedd pawb (wel, bron pawb) yn gofyn pam nad oeddwn i’n yfed. Yn wirion, fy ddywedais nad oeddwn i’n yfed. Cafodd yr ateb hwnnw wahanol ymatebion.
- Roedd rhai, er y lleiafrif, yn derbyn y ffaith hon, ac yn parhau i siarad gyda fi, neu fynd i ffwrdd yn fodlon.
- Roedd rhai eraill wedi brawychu, ac yn cwestiynu fi gyda ‘pam?’ a ‘be, di rhieni ddim isio ti’n ‘pissed’?’
- Tra roedd rhai, yn fwy tebygol o fod yn fechgyn, yn cynnig llymaid o’u diod, yn ailadrodd y mynegiad ‘cymera ychydig, cymera ychydig’.
Yn ganiataol, y rheswm pam fod y fath yma o bartïon yn cael eu cynnal oedd i ddod a phawb yn chweched flwyddyn at ei gilydd, trwy gyfrwng y Gymraeg. Na, dwi’n dweud celwydd, roedd o drwy’r cyfrwng o ddiod, a dwi ddim yn golygu te a sgonsen. I gychwyn, roeddent yn cael eu galw’n ‘Parti Bondio’ – ac roedd nifer o rai’r chweched yn eu galw’n ‘Parti Boncio’, hyd yn oed os nad oes y fath beth yn digwydd yn y partïon hyn. Yn ystod fy mlwyddyn ddiwethaf yn yr ysgol, fe gychwynnem ei alw’n ‘Parti Piss-up’, gan nad oedd unrhyw fondio yn mynd ymlaen, felly roeddent yn mynd i feddwi.
Pam ddywedais i’r darn diwethaf yna? Dim syniad. Oedd o i brofi pwynt mai’r unig beth mae pobl person ifanc yn feddwl amdano ydy meddwi a thwyllo eu hunain i feddwl eu bod yn cael amser da? Efallai, Ond dwi ddim yn gwybod.
Ond dwi’n gwybod un peth, mae nifer yn defnyddio alcohol fel esgus. Neu, yn fwy tebygol, mae pobl yn defnyddio gwahanol achlysuron a sefyllfaoedd i yfed alcohol. Ac mae’n gwneud i mi feddwl, pam fyddai pobl yn yfed i wneud eu hunain yn hapusach?
Dydy alcohol ddim yn iselydd?
Dwi wedi clywed llawer yn hawlio fod alcohol yn tawelu ti, yn cael ti mewn hwyliau da ac yn rhoi hyder i ti. Dyw’r frawddeg ddiwethaf yna yn gwneud dim synnwyr i mi. Efallai bod effaith plasebo yn mynd ymlaen, am eu bod yn meddwl bod alcohol yn rhoi hyder iddynt maent yn hyderus, er nad yw’r alcohol wedi gwneud dim i’w hyder. Ond dyna fy marn i, Fyd.
Wrth i mi ysgrifennu hwn, dwi’n meddwl yn ôl ychydig flynyddoedd, i amser lle roeddwn i hanner ffordd trwy astudio am fy ngraddau TGAU.
Roeddwn i ar y ffordd gartref, yn teithio ar y modd trafnidiaeth lawen sydd yn cael ei adnabod fel bws ysgol, ac roeddwn ynghanol trafodaeth gyda genethod (oedd ychydig flynyddoedd yn ieuengach). A rhywsut, daeth y drafodaeth at ddiod. Pan ddywedais nad oeddwn i’n yfed, roedd y genethod wedi brawychu, fel yr oedd bod yn sobor yn pechu.
Fe ddechreuais deimlo allan o le, am fy newis i fod yn sobor. Roeddwn yn teimlo fel bod criw o enethod ifanc yn edrych i lawr arna i am benderfynu yn erbyn bywyd gydag alcohol.
Pam fod pethau fel hyn yn digwydd? Wir?
Ddylai pawb ddim parchu penderfyniadau eraill mewn bywyd?
Atebion yn y man sylwadau, plîs.
Hoffwn i os taswn i yn gallu ehangu ymhellach, ond mae hen i hanner bocs o Celebrations ar ôl, a dwi’n ofni fod rhai o fy nheulu efo’u llygaid craff arnynt.
Diolch i ti, fyd.