Monday 7 March 2011

Annwyl Fyd - Cerddoriaeth


Annwyl Fyd
Wyt ti’n hoffi miwsig? Dwi yn. Dwi’n meddwl ei fod yn ffynhonnell adloniant grêt i’r clustiau. Er, nid cymaint ag i’r llygaid.
Na, dwi ddim yn ceisio bod yn ddoniol yn fan hyn. Roeddwn i’n meddwl ei fod yn sylwad synhwyrus pan gododd yn fy mhwn. Bydd rhaid i mi esbonio fy hun mewn mwy o fanylder.
Rhyw. Mae miwsig yn llawn ohono. Naill ai mewn fideos miwsig neu yn y caneuon eu hunain. Ac yn bersonol, dwi ddim yn gweld y pwynt.
Wel, yn amlwg, mae yna bwynt iddo – arian.
Mae rhyw yn gwerthu. Edrycha ar R&B, mae’n llawn merched yn dawnsio o gwmpas dynion eithaf diflas wrth iddynt ganu am faint o arian maent wedi’i gael drwy gael gwared ar y gelynion yn y cyffiniau a chasglu cyflog o fargeinion cyffuriau. Wel, dyna’r fersiwn “cyfeillgar i’r we a’r Daily Mail” beth bynnag.
Iawn, nid yw bob cân R&B fel hyn, ond mae’r mwyafrif yn. Wel, yn fy marn i mae o beth bynnag. Dwi hefyd yn ei chael yn anodd credu fod R&B y dydd modern wedi deillio o ddyddiau gwir ‘rhythm a blues’, lle'r oedd “urbane, rocking, jazz based basic with a heavy, insistent beat” yn dod yn fwy poblogaidd, yn ôl y wefan adnabyddir fel Wikipedia.
Beth oeddwn i’n sôn amdano? O ia, rhyw mewn fideos miwsig. Mae hwn yn un rheswm pam dwi’n casáu grwpiau fel JLS, lle maent yn defnyddio eu corf i werthu eu (gad i ni fod yn onest am funud bach dwyfol yn fan hyn) cerddoriaeth eithaf diflas.
Er dwi’n gwybod fod llawer iawn o ryw yn cael ei ddefnyddio mewn miwsig roc hefyd, fel y cân Go That Far gan Bret Michaels. Mae dau fideo miwsig wedi bod i’r gân yna, un gyda’r band yn perfformio o flaen cefndir gwyn ac un gyda lluniau o ferched hanner noeth yn dawnsio o gwmpas tra mae’r “rocwyr” gwrywaidd yn gwylio nhw. Nawr, gan fy mod i’n wryw, byddet ti efallai’n debygol o honni fy mod i’n ffafrio’r fideo gyda’r merched yn dawnsio gyda’i bronnau hanner allan, ond byddai hynny’n rhywiaethol ohonot. Mewn gwirionedd, dwi ddim, mae’n llawer gwell gen i'r fideo gyda’r band yn unig, hyd yn oed os ydy’r prif leisydd yn edrych fel ei fod ar un neu ddau o wlâu haul.
Gad i mi ddweud wrthyt ti ar y cychwyn, dwi ddim yn ffan fawr o Justin Bieber na Miley Cyrus. Pam? Wel, i mi, nid oes grŵf iddynt. Mae eu caneuon yn arferol yn y synnwyr nad oes dim newydd, maen nhw’n defnyddio’r un hen fformiwla i ennill arian. Tra bydd eraill yn dweud fod y caneuon yn ddim ond canlyniad cylch system dreulio anifail, neu’r gair rheg pedwar llythyren sydd yn cyfleu hyn yn haws, ond gallai fod wedi’i olygu allan. O wel.
Dyna sydd yn fy nghael i. Dwi ddim yn deall pam fod pobl yn dweud nad ydynt yn hoffi band neu grŵp oherwydd eu bod nhw, i roi’r peth yn ysgafn, yn sbwriel. Pam eu bod nhw’n sbwriel? Ydy hyn am fod eu caneuon yn swnio’n rhy debyg i’w gilydd? Na, am eu bod nhw’n crap ydy o, ond i roi o ychydig yn fwy cras ond yn llai amlwg nag os faswn i’n dweud s**t.
Fel dywedais, dwi ddim yn hoffi miwsig Justin Bieber. Efallai ei fod o’n berson talentog ac yn foi neis iawn, ond dwi’n ei chael hi’n od iawn fod rhywun sydd yn gallu chwarae nifer o offerynnau yn canu mewn genre miwsig sydd yn adnabyddus am gerddoriaeth tiwinio-awto ac electroneg. Dwi ddim yn hoffi’r genre yma, a dwi’n amau na fyddaf byth.
Ond un peth sydd yn gwylltio fi ydy pan mae rhywun yn dweud “Dwi ddim yn hoffi’r band yna, maen nhw’n rhy prif lif.” Tarodd hyn fi yn ddiweddar pan ofynnais i rywun os oeddent yn hoffi Muse, ac fe ddywedodd o ei fod yn hoffi gwaith cynnar Muse, ond fod yr albwm newydd yn rhy “mainstream”.
Mae huna’n sylwad eithaf od i wneud, meddyliais i fi fy hun. Ni ddylet ti gasáu band neu grŵp am eu bod nhw’n boblogaidd, fe ddyla’ ti gasáu nhw oherwydd rhywbeth arall. Os na bod nhw wedi dweud fod Muse yn rhy prif lif iddynt er mwyn edrych yn ddwfn ac yn ddirgel – ac os felly, maen nhw angen help. Neu ydy hynny rhy prif lif iddyn nhw hefyd?…
Dwi ddim poeni llawer am y genre cerddoriaeth. Dim ond ei fod efo rhyw fath o grŵf, yna mae’n fath fi o fiwsig. Dyna un rheswm pam fyddaf yn mwynhau bandiau fel Skindred (sydd yn y fideo uchod), Muse, Rise Against a Pearl Jam. A rheswm arall pam nad oes Westlife na Jedward ar fy iPod. Dyddiau da, eh byd?
Diolch i ti, fyd.

No comments:

Post a Comment