Wednesday 2 February 2011

Annwyl Fyd - Canmoliaeth


Annwyl Fyd.
I fod yn onest, dwi’n meddwl fod y gelf o ganmoliaeth yn beth eithaf aflonyddus. Gad i mi fanylu.
Fel mae pobl yn dweud “mae’n well rhoi na derbyn”, fe wna'i adael y gorau tan ddiwethaf a thrafod derbyn canmoliaethau gyntaf. Wel, hynna a’r ffaith nad wyf yn eu cael yn aml. Ha.
Na, i fod yn gwbl ddifrifol, dwi’n eithaf gwael pan ddaw i dderbyn canmoliaeth. Dwi ddim yn mynd “o ia” ac yn gwneud dawns mor wych fel ei fod yn gwneud i uncyrn (unicorns) wylo dagrau enfys o lawenydd byddai’n datrys problemau dyled y byd gyda digon ar ôl i wneud yn sicr fod yr iaith Gymraeg yn cael ei glywed dros y byd, gan y byddai hynny yn eithaf trahaus ohonof.
Na, yr unig beth fydda i'n gwneud ydy dianc i mewn i fi fy hun. Dwi’n mynd yn eithaf swil, yn dweud “diolch” yn ddistaw bach a symud y drafodaeth yn ei flaen oddi wrtha i mor sydyn â phosib. Gallai fod yn ganmoliaeth mor fach â “mae gen ti ramadeg da”, a dwi dal yn ei chael yn anodd credu. Wel, os nad yw’n rhywbeth dwi hefyd yn feddwl sydd yn wir.
Dwi ddim yn bod yn ben mawr yma, ond dwi yn credu fy mod i’n gallu trin llinynnau’r iaith Saesneg a phinsio nhw fel eu bod yn gwneud beth dwi eisiau wrth greu brawddeg gywir, er dwi’n credu fod fy niffyg geiriau a gwybodaeth o’r rheolau yn dal fi’n ôl. Pam fy mod i dal i fynd ymlaen am hyn? Dim syniad. Pam na wnes i ddweud “Dwi’n gallu creu brawddegau hanner gweddus” yn lle’r ‘fail’ yna o frawddeg? Dim ond mab rhywun sydd efo rhif cyfartal o lafariaid a chytseiniaid yn eu henw cyntaf a chyfenw gall ateb hynny.
Fel gallet ddweud mai’n debyg, dwi’n ei chael yn hyd yn oed mwy anodd i roi canmoliaeth. Pam? Wel, mae nifer o ffactorau am hyn.
Gad i ni gymryd esiampl dwi wedi profid fy hun. Llynedd, fe welais rywun. Wel, fe welais o leiaf cant o bobl llynedd, ond ti’n gwybod beth dwi’n feddwl. Hogan dwi’n adnabod oedd y rhywun yma, a byddai dweud ei bod hi’n dlws ddim yn dweud digon. Yn sicr, roedd hi bob tro yn edrych yn neis, ond ti’n gwybod beth dwi’n feddwl. Wrth iddi gerdded tuag ataf, beth ddywedais? Wel, yr amlwg…
Siaradais am y tywydd. Smŵdd dwi ynte?
Ond, beth allwn i ddweud? Os byddwn i yn dweud rhywbeth canmoliaethus, roedd siawns uchel iawn y byddai’n dod allan mewn ffordd “dwi ddim yn hyderus yn beth dwi’n ddweud” math o ffordd, gallai ganlyn ynddi hi’n meddwl fy mod i’n dweud celwydd. A hyd yn oed os oedd beth oeddwn i eisiau ei ddweud yn swnio’n iawn, mae’r siawns ei bod hi wedi ei glywed o’r blaen yn uchel iawn.
Beth roeddwn i hefyd yn meddwl oedd sut y byddai’n derbyn y ganmoliaeth yma. Efallai, os byddwn i’n dweud rhywbeth am ei hedrychiad ar y diwrnod hwnnw, byddai hi wedi meddwl fy mod i yn trio hi ar efo hi. Un a’i hynny, neu yn rhoi fi ar ei “rhestr creep” meddyliol sydd ganddi efallai. A do, dwi wedi cael yr holl syniadau hyn mewn cyn lleied â thri eiliad. Efallai nad wyf wedi’n nylunio yn dda iawn i roi canmoliaeth, ond mae gen i feddwl sydyn. Gallaf hyd yn oed feddwl am stwff yn fy llygaid caeedig, Mae’n dalent gymrodd amser maith i feistroli, ond dyw Britain’s Got Talent ddim yn cytuno.
Rhywbeth arall byddwn i’n ei chael yn annifyr ydy, beth os oedd grŵp o bobl, sut wyt ti’n ymddwyn wedyn? Wyt ti’n canmol y rhai ti’n credu sydd yn haeddu canmoliaeth? Os felly, yna efallai dy fod yn sarhau’r eraill yn y grŵp heb fod eisiau. Neu, wyt ti’n dweud rhywbeth wrth holl aelodau’r grŵp? Rhywbeth fel “Carla, ti’n edrych yn eithaf prydferth heno. Tina, ti hefyd yn edrych yn eithaf neis. Anna, mae’n neis ohonot ti i droi fyny hefyd”? Er, wrth wneud hyn, byddwn yn creu rhyw fath o “ddosbarth o brydferthwch”. Ac er eu bod yn gwybod yn gyfrinachol, a dwi’n gwybod, byddai’n hollol anghywir i fi ddweud hyn.
Felly, ydy hyn yn golygu y dylwn i wneud sylwadau generig ar bob un ohonynt, rhywbeth fel “rydych chi i gyd yn edrych yn eithaf lyfli heno”? Ond os byddwn i, byddai’r ganmoliaeth yn ddim ond ychydig eiriau wedi’u cymysgu gyda’i gilydd i greu rhywbeth sydd yn cael ei ddweud bob dydd. Fel “helo”. Neu “bybl wrap”.
Dwi ddim yn gwybod i ba raddau, ond dwi’n gwybod fy mod yn swnio’n berson eithaf dienaid yma. Wel, nid dienaid, ond dwi’n gobeithio ti’n deall beth dwi’n ceisio’i ddweud. Ac os ddim, gallet smalio efallai? A, dyna’r un peth amdanaf i efallai byddwn yn newid os petawn yn cael y cyfle, ac wedyn gallwn i fod yn actor gweddus. O wel.

No comments:

Post a Comment