Monday 6 December 2010

Annwyl Fyd - Ymgyrch Facebook NSPCC


Annwyl Fyd,
Cyn i mi ysgrifennu hwn hyd yn oed, dwi’n teimlo fod hwn yn mynd i fod yn un dadleuol.
Yn ddiweddar, mae ymgyrch wedi bod ar Facebook.
Mae’n ymwneud â newid llun proffil person i godi ymwybyddiaeth o’rNSPCC, i atal camdriniaeth plant.
Mae bron pob un ar fy rhestr ffrindiau wedi newid eu llun proffil wrth newid eu statws i’r canlynol neu rywbeth tebyg…
‘Newid dy lun proffil Facebook i gymeriad cartŵn o dy blentyndod a gwadd dy ffrindiau i wneud yr un peth, ar ran yr NSPCC. Tan ddydd Llun (Rhagfyr 6ed) ni ddylai fod wynebau pobl ar Facebook, ond goresgyniad o gofion. Mae’r ymgyrch hwn er mwyn rhoi stop i drais yn erbyn plant’
Ond mae hyn wedi gwneud i mi gwestiynu rhywbeth. Sut mae hyn yn mynd i atal creulondeb tuag at blant?
Sori, ond nid yw’n stopio trais yn erbyn plant. Iawn, mae er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r NSPCC, ond fyddai ddim yn well os byddai cyswllt i dudalen rhodd yr NSPCC?
Dwi ddim yn gweld sut mae newid dy lun proffil i ryw gymeriad cartŵn o dy blentyndod yn mynd i stopio plentyn gael ei ymosod arno mewn unrhyw ffordd.
Dwi ddim yn meddwl bydd rhiant treisiol yn dweud “Damnia ti, fab. Ti’n mynd i ddifaru pan fyddai’n cael gafael arna ti,” ac ar y funud honno, mae’n edrych ar ei dudalen Facebook, yn darllen y neges ac yn meddwl “wel, gan fod pawb wedi newid ei lun proffil i Squirtle a’r criw o Recess, dwi ddim am frifo ti heddiw fab”
Na.
Nid yn unig hynny, ond os byddai rhywun wedi cael ei gam-drin yn blentyn, nid y peth gwaethaf i nweud ydy i newid eich lluniau Facebook i gyd i gymeriad cartwn o dy blentyndod? Os byddai rhywun, gafodd ei gam-drin yn blentyn yn gweld llun o Bagpuss neu Garfield, efallai byddai’n ail-danio cofion o’u magwraeth drwg.
Fi ydy’r unig un fyddai’n meddwl gall hyn ddigwydd?
Un peth sydd yn cael i mi am yr ymgyrch hwn ydy mai dim ond tan heddiw, dydd Llun 6ed Rhagfyr, mae o. Mae’n ymddangos fel mai’r penwythnos sydd wedi pasio ydy’r unig amser gallwn ledaenu ymwybyddiaeth o gamdriniaeth plant.
Nid yw elusen yn beth tymhorol. Ydy, mae Diwrnod AIDS Y Byd yn fis Rhagfyr, ond ni olygai hyn mai dim ond codi ymwybyddiaeth o AIDS ar y diwrnod hwnnw’n unig ydym ni. Mae Plant Mewn Angen yn fis Tachwedd, ond mae pobl yn dal i godi arian amdano ar ôl yr ochr teledu o bethau orffen am ddiwrnod arall. Pam? Dim syniad.
Dwi’n gwybod fy mod yn risgio troi allan yn bod yn rhywun sydd o blaid camdriniaeth plant. Mae hynny yn hollol anghywir. Dwi eisiau atal camdriniaeth plant cymaint ag unrhyw berson call ar y blaned, ond ni fedraf ddirnad manteision yr ymgyrch yma.
Yr unig beth mae’n ei wneud ydy gwneud i bobl newid eu lluniau. Nid oes arian yn cael ei roi i’r NSPCC (nag unrhyw elusen arall yn erbyn camdriniaeth plant).
Dwi wedi darllen yn rhywle fod pobl yn gwisgo rhuban coch i godi ymwybyddiaeth o AIDS, ond yn gwneud dim pam rydym yn gwisgo nhw. Mae hyn yn gelwydd, o leiaf mae yna arian yn mynd i elusen.
Dwi’n cofio, tua dwy flynedd yn ôl, roedd swyddogion fy ysgol yn mynd o gwmpas, yn gwerthu rhubanau i godi ymwybyddiaeth o AIDS. Dim ond ychydig ddarnau o arian oedd gen i, felly dim digon i brynu rhuban, ond fe rois yr arian yr un peth. Nid oes hyd yn oed cyswllt i wefan NSPCC i roi cyfle i bobl Facebook i roi arian i’r elusen.
I fod yn onest, weithiau dwi’n teimlo fod pobl yn gwneud y ‘newid dy lun Facebook i godi ymwybyddiaeth o greulondeb tuag at blant’ i fod yn rhan o’r dorf, neu i beidio ymddangos fel eu bod yn malio dim. Dwi ddim wedi newid fy llun proffil, ond dyw hyn ddim yn golygu nad ydw i’n poeni am blant.
Byddai’n gas gen i feddwl fod plentyn dwi’n adnabod yn cael ei drin yn annheg, ac drwy hyn, dwi ddim yn golygu cymryd yr Xbox 360 oddi wrthynt am nad ydynt wedi gwneud eu gwaith cartref.
Rhywbeth arall dwi ddim yn deall ydy hyn. Mae rhywun wedi gwneud grŵp Facebook sydd yn dweud rhywbeth tebyg i, “Hoffa hwn os wyt ti wedi newid dy lun proffil i gymeriad cartŵn i gefnogi’r NSPCC <3.” I mi, mae hyn yn teimlo fel brolio mwy na dim arall.
Ymddangosai fel eu bod yn brolio eu bod wedi newid eu llun proffil i gefnogi’r NSPCC. Nid yn unig hyn, ond mewn un ystyr, maent yn bychanu pawb sydd ddim yn newid eu llun proffil.
Ti’n gwybod beth, byd? Cefnoga’r NSPCC mewn ffordd llawer fwy cynhyrchiol drwy roi rhodd i’r elusen. Mae’n gwneud mwy o synnwyr ac yn gwneud llawer mwy o wahaniaeth.
Yn ogystal, dwi’n annog ti i wylio’r fideo. Mae hysbysion fel hyn yn ffordd llawer gwell i godi ymwybyddiaeth o greulondeb i blant nag newid dy lun proffil Facebook am dri diwrnod.



Diolch i ti, fyd.

No comments:

Post a Comment