Tuesday 21 December 2010

Annwyl Fyd - Nadolig


Annwyl Fyd,
Yn ôl yr hysbyseb, mae’r “gwyliau yn dod” (holidays are coming).
Er bod yr hysbyseb eithaf enwog hwn gan Coca Cola yn arwydd cychwyn y tymor gwyliau i nifer, nid yw hyn yn wir i fi.
I fi yr adeg glywais i’r pum gair melys yna…
“Mae pawb yn caru  DVD”.
Iawn, mae DVD yn dri gair i ddweud y gwir, felly’n dechnegol 8 gair ydyw.
Er hyn, mae’n ymddangos fel mai dyma’r adeg o’r flwyddyn pan fydd pob comig yn rhyddhau DVD i werthu. Be dwi’n golygu ydy, dwi erioed wedi gweld hysbyseb am DVD Jethro yn ystod y Pasg na’r haf, dim ond yng nghyfnod y Nadolig.
Dwi wedi gweld dipyn o DVDs gan ddigrifwyr yn ddiweddar. Mae hysbysebion DVD fel y rhai gan Dara O’Briain, Sean Locke, Bill Bailey a Michael McIntyre wedi bod ar sgrin fy nheledu, ac y mwy dwi’n eu gweld, y mwy byddaf yn credu eu bod yn gwir symbol fod y Nadolig yn dod, a dim hysbyseb o bobl yn gwylio rhyw faniau coch yn rholio i mewn i dref.
Mewn gwirionedd, wedi meddwl, nid yr hysbysebion am DVDs y digrifwyr sydd yn symboleiddio fod Nadolig yma. Hysbysebion yn gyffredinol ydyw, ia?
Mae’r hysbysebion hyn yn dangos un peth i mi: dangos fod y Nadolig wedi colli ei ystyr, fel llawer cyfnod tymhorol eraill o’r flwyddyn. Gan ei fod yn Nadolig y mis hwn, fe ddefnyddiaf y Nadolig fel esiampl.
I gychwyn, cardiau Nadolig. Paid â chamddeall fi, dwi’n deall yr ystyr tu cefn iddynt, ac i ddymuno Nadolig llawen i bobl ydyw. Ond, ydy o ychydig yn od fod pobl yn prynu cardiau Nadolig i’w gilydd pam maent yn byw yn yr un tŷ?
Roeddwn i’n meddwl eu bod yn arbenigo mewn cyfarch eraill i mewn i’r tymor llon i bobl nad wyt ti’n gweld yn aml (neu dy gymdogion a phobl fel yna). Mae’n ymddangos yn eithaf od pam mae rhywun yn cael cerdyn Nadolig gan berthynas agos.
A pam dwi’n dweud perthynas agos, dwi’n golygu rhywun sydd yn byw yn yr un tŷ a ti. Ond eto, efallai mai dim ond fi ydy hynny.
Rhywbeth arall sydd efallai o ganlyn fy ngolwg od ar fywyd ydy rhoi a derbyn anrhegion. Y hiraf rwyf i’n byw, y mwy dwi’n gweld hyn fel rhywbeth brolio. Ti’n gwybod, unai’n brolio am faint o anrhegion maent wedi’i dderbyn neu faint oedd ei bris.
Dwi’n cofio, yn ôl yn y dydd pan roedd Defaid ddim ond yn fflach syml yn llygaid CLIC, roedd rhai pobl yn fy mlwyddyn yn trafod beth roeddent wedi’i dderbyn. Siaradodd un person, nad allaf enwi gan fy mod wedi anghofio eu henw a’u rhyw, am beth roeddent wedi’i gael.
Beth roedden nhw wedi’i gael? Gliniadur, iPod a nifer o anrhegion eraill. Yr unig beth feddyliais i oedd, pwy sydd yn malio? Pa fantais ydyw i mi os ydw i’n gwybod fod gan dy iPod di 8GB o gof a bod dy liniadur wedi dod efo Office 07? Dim.
Llynedd am y Nadolig, ynghyd ag ychydig o ddillad, fe dderbyniais i ffôn gan fy rhieni. Nid yw’n ffôn gorau yn y byd chwaith, nac yr un drytaf. Ydw i’n poeni? Na. Yr ystyriaeth sydd yn cyfri, cywir? A beth bynnag, mae’n gwneud popeth mae ffôn fel arfer yn ei wneud. Mae’n gwneud galwadau, mae’n gallu gyrru a derbyn negeseuon testun, beth arall wyt ti angen?
Dwi ddim yn gweithio mewn busnes, felly nid oes angen ffôn sydd yn gallu gyrru a derbyn e-byst, efo sat-nav ei hun ac yn gallu gwneud i dy lais swnio fel Dyn Bach Mewn Bocs Rob Brydon. Mae gen i iPod touch am ddau o’r tri pheth soniais amdanynt.
Aa, dwi yn credu fy mod i angen bywyd.
Ond un peth dwi yn meddwl am y Nadolig ydy ei fod yn beth da i ddod a phawb at ei gilydd. Rhywsut. Hyd yn oed os oes un neu ddau o ddadleuon a hyd yn oed anghytundeb, mae’n ymddangos fel bod y Nadolig yn dod a phawb at ei gilydd. Pam fod hyn? Dwi ddim yn gwybod.
Ydy ef oherwydd y tymor, gyda’r oerni a phethau eraill yn dod a ni at ein gilydd? Ydy ef oherwydd mae’n cael ei orfodi arnom, gyda’r holl ruthro o gwmpas a’r panig i gael popeth yn barod cyn y diwrnod mawr? Ydi ef am fy mod i’n anghywir a dwi angen cael allan mwy? Pwy a gwŷr.
Diolch i ti, fyd.

No comments:

Post a Comment