Wednesday 22 December 2010

Annwyl Fyd - X Factor A Rhif Un Nadolig


Annwyl Fyd,
“So this is Christmas, and what have you done?”, fel ganodd John Lennon yn ei gân Nadolig.
Ac mae’n wir. Beth ydym ni wedi’i wneud?
Mae’r rheswm ddewisais i'r dyfynnod yma yn hollol wahanol reswm i’w ddewis ef o’r geiriau yn y gân yna.
Ia, dwi’n sôn am rif un y Nadolig. Wel, nid hynny yn unig, dwi’n sôn am sut mae’r X Factor yn dominyddu brig y siartiau dros y Nadolig.
Os nad wyt ti wedi dyfalu erbyn hyn, dwi ddim yn hoffi’r X Factor. I ddweud y gwir dwi’n casáu unrhyw fath o sioe realiti.
Pam mod i’n casáu o? Wel, mae’n amlwg i ddweud y gwir. Ydy o? Ydy. Ydy mae o.
Y prif reswm ydy’r un peth sydd wedi achosi rhai o bobl i fod yn eithaf blin pan ysgrifennais am y brotest newydd yn erbyn enillydd yr X Factor eleni.
Ers iddo gychwyn, mae enillydd yr X Factor wastad wedi cael rhif un y Nadolig. Bob un heblaw am un, diolch i Rage Against The Machine yn ennill llynedd ac yn casglu arian i Shelter wrth wneud hynny.
Ond, er mod i’n cytuno’n llwyr gyda’r protest llynedd, efallai y dylwn i roi gorau iddi nawr. A dwi ddim yn golygu'r X Factor yn unig.
Meddylia am y peth fel hyn. Am dipyn nawr, mae enillydd yr X Factor wedi ennill rhif un y Nadolig. Llynedd, fe wnaeth hyn gythruddo rhywun i raddau a chychwynnwyd ymgyrch yn ei erbyn ac enillodd. Dydy’r flwyddyn hon ddim gwahanol gydag enillydd X Factor yn erbyn llond llaw o ganeuon eraill sydd yn ceisio diorseddu enillydd X Factor arall.
A beth fydd yn digwydd flwyddyn nesaf? Yr un peth. Pam? Wel, i mi, roedd ymgyrch llynedd yn gychwyn cylchred.
Unwaith mae’r X Factor yn cychwyn, mae rhywun yn meddwl beth fyddai’n gallu mynd yn erbyn enillydd y flwyddyn honno. Yn ystod rhan fyw'r sioe, mae’r cynlluniau i’r ymgyrchwyr yn dod yn fwy realistig. Pan fyddem yn gwybod pwy sydd wedi ennill yr X Factor, mae’r ymgyrchwyr yn ceisio codi ymwybyddiaeth o’r ymgyrch. Mae enillydd rhif un y Nadolig yn cael ei gyhoeddi, yna mae pobl yn siarad am y peth am wythnosau wedyn. Ar ôl ychydig fisoedd, mae’r peth yn ail-gychwyn eto.
Y peth ydy, nid y cylchred dwi wedi dysgu osgoi ydyw yn unig. Y ffaith fod cân yr enillydd bob tro’n ‘cover’.
Yn y gorffennol, roedd y gân oedd yn cyrraedd brig y siartiau yng nghyfnod y Nadolig wedi bod gan rywun sydd wedi ysgrifennu’r gân (y mwyafrif ohonynt). Dim ond perfformio cân sydd wedi cael ei ysgrifennu gan fand arall sydd raid i’r enillydd X Factor. Pam? Efallai fedri di ateb hynna?
A’i nid yw hyn yn ychydig yn, ti’n gwybod, ychydig fel twyllo i raddau? Yr unig beth oedd rhaid i’r boi Matt yna wneud oedd difethaf cân Biffy Clyro. Wythnos wedyn, mae’n cael rhif un y Nadolig. Pa ran o hyn sydd yn ymddangos yn deg i ti?
O, ac mewn ymateb i unrhyw un sydd yn meddwl ‘fe enillodd yr X Factor, fe weithiodd am fisoedd i ennill’. Sut? Mae’r X Factor wedi troi o fod yn gystadleuaeth canu i un o boblogrwydd, fel fersiwn cerddorol o Big Brother. Pam na allai Matt, neu bawb sydd wedi ennill y gystadleuaeth, ysgrifennu cân yr enillydd? Os bydda nhw, yna bydda gen i lawer mwy o barch iddynt na sydd gen i nawr.
Sydd yn gwneud i mi gwestiynu rhywbeth arall am yr X Factor. Pam nad yw’n cael ei ddangos yn ystod yr haf? Pam fod rhaid iddo gael ei ddangos yn ystod misoedd yr hydref a’r gaeaf? Gwerthiant? Yr unig beth mae’n wneud ydy rhoi arian ym mhoced Simon Cowell. Mae pawb yn dod i fyny ato i gael clyweliad, ac ar y diwedd mae ganddo restr o oddeutu deg act i arwyddo. Mae’r rhan fwyaf o’r arian o werthiant sengl enillydd yr X Factor yn mynd i Cowell. Felly pwy yn y pen draw ydy gwir enillydd X Factor eleni? Simon Cowell, fel pob blwyddyn arall.
Dwi’n credu fod hynna ddigon o rantio am un diwrnod, Fyd. Dyna ddiwedd arni rŵan i mi ystyried yr atebion i gwestiynau anodd, fel os byddai pengwin a chŵn efo breichiau a dwylo, pwy fydda’n ennill? Pwy a wyr…
Diolch i ti, fyd.

No comments:

Post a Comment