Tuesday 18 January 2011

Annwyl Fyd - Jôcs Budur


Nodyn – Mae’r mwyafrif (wel, bob un) o’r linciau uchod yn fideos o YouTube, gyda’r mwyafrif efo rhegi neu’n eithaf sarhaus yn beth maen nhw'n ddweud. Meddwl byddwn i’n gadael i ti wybod cyn i ti glicio arnynt a dwrdio fi am hyrwyddo iaith gref ac ati. Diolch.
Annwyl Fyd
Hoffwn ofyn cwestiwn i ti.
Ydy hi’n anghywir i chwerthin ar jôcs sydd yn cael eu cysidro’n ddrwg? Ti’n gwybod, fel rhai hiliol a rhywiaethol?
Gad i mi ehangu o beth dwi wedi’i weld yn ddiweddar. Dwi (dal, rhywsut) yn y brifysgol, ac yn ffrindiau gyda hogyn oedd yn arfer byw yn Iran. Bob tro dwi’n ei weld, mae bob tro’n dweud rhywbeth wrtha i am fod yn wyn, neu am fod yn Gymraeg.
Esiampl o rywbeth byddai’n ddweud amdanaf i'n bod yn wyn ydy pan roedd hi’n bwrw eira, a dechreuodd alw fi’n “pluen eira” a dweud y byddwn i’n ninja gan na fyddai neb yn fy ngweld i. Esiampl arall ydy pan siaradais Gymraeg i ddarlithydd, ac fe honnodd ein bod yn hiliol gan mai dim ond y darlithydd a finnau oedd yn deall ein gilydd, gan nad oedd yr un myfyriwr arall yn y dosbarth yn siarad yr iaith braf sydd yn cael ei adnabod i bawb fel Cymraeg.
Roeddet ti’n gallu clywed yn ei lais nad oedd o’n hollol o ddifri. Os oedd o, roedd o’n ei guddio’n dda. Ac os byddwn i, neu unrhyw berson arall yn ein cylch o bobl, yn dweud jôc neu unrhyw beth allai gael ei feddwl yn hiliol yn ei erbyn o, mae’n ymateb yn yr un ffordd a fyddaf i. Yr unig wahaniaeth ydy ei fod o yn dod yn ôl gydag ymateb doniol, fel arfer yn dweud rhywbeth llawer gwaeth wedi’i dargedu yn erbyn ei hun.
Felly beth dwi’n drio’i ddweud yn fan hyn? Mae yna lefel o hiliaeth yma. Mae ef yn dweud na fyddai neb yn gallu gweld fi pan fydd hi’n bwrw eira yn prif esiampl, ond ddim yn un da. Ond ydy hyn yn bod yn hiliol?
Mae’r un peth yn wir gyda merched, mewn ffurf rywiaethol ac nid hiliol. Os wyt ti’n mynd ar wefannau penodol, fel Failblog, Sickipedia neu debyg, mae’n ymddangos fel bod barn eithaf rhywiaethol am ferched. Y prif un ydy rhywbeth tebyg i “os ydy coeden yn disgyn ar ferch yng nghanol y coed, pam nad yw’r ferch yn y gegin?”
Ond pam?
Dim syniad.
Iawn, mae’r rhan fwyaf o’r gwefannau hyn yn ymwneud ag adloniant jôcs, felly nid yw pob un yn bwriadu bod yn filain. Er, pa bryd mae hyn yn mynd yn rhy bell?
Fedra i ddim ateb hynna, gan fod pawb yn wahanol. Cysidra’r jôc yna am ferched uchod. Y tro cyntaf clywais i hwnna, fe chwarddais. Fedra’i ddim gwadu hynna. Ond, roeddwn i yn meddwl ei fod yn gras. Nawr dydy pob jôc rywiaethol “merch, cer i mewn i’r gegin” dwi’n ei glywed ddim yn gwneud synnwyr. Ar adegau prin iawn, dwi’n clywed jôc rywiaethol sydd yn gwneud i mi chwerthin, rhywiaethol yn erbyn dynion a merched, ond os mai’r unig beth mae’n sôn amdano ydy’r gegin a diffyg gallu i ofyn am gyfarwyddiadau pan ar goll, yna mae’n ddiwerth.
Mae un peth yn sicr, mae pawb efo gwahanol lefel goddefiant pan ddaw at y math yma o jôcs. Fel bydd un person yn chwerthin yn uchel i jôc sydd yn cynnwys Hitler a beth wnaeth o i’r rhai sydd yn credu yn ffydd yr Iddewig, bydd person arall efallai yn crynu wedi dychryn ac wedi’i ffieiddio gan eu bod yn ddiweddar wedi cael eu tramgwyddo gyda jôc am y Cymry.
I mi, fedra i chwerthin am bron i bob dim. Ac, am ryw reswm, dwi ddim yn teimlo’n esmwyth yn dweud hynna. Wrth i ti wylio pennod o Mock The Week ar YouTube neu Dave, fe fyddi di, cyn hir, yn clywedFrankie Boyle yn dweud jôc. Fel arfer, mae ei jôcs gwneud yn ysgafn o bynciau tywyll, yr esiampl gorau o hyn ydy, yn ystod “llinellau na fyddet ti’n clywed mewn ffilm ‘superhero’ rhan o “Scenes We'd Like To See”, mae’n cerdded i fyny at y microffon, ac yn dweud “A’i deryn yw e? A’i awyren yw e? Beth bynnag ydy o, mae’n anelu’n syth am Canolfan Masnach y Byd (World Trade Centre).”
Chwarddodd y gynulleidfa. Wel, ddim yn syth cofia. Roedd y stiwdio wedi’i llenwi gydag ebychiadau. Ond fe ddywedai un peth wrthyt ti, ar ôl i mi ebychu, chwarddais. Ydy hyn yn gwneud fi’n berson cas? Ydy hyn yn golygu mod i’n meddwl fod y bobl bu farw yn 9/11 yn ddoniol? Yn bersonol, fyddwn i ddim yn dweud hynny. Ond yna, efallai dy fod di’n meddwl fy mod i’n berson dideimlad gyda llai o gydymdeimlad na chath i lygoden heb goesau.
Dwi newydd sylwi mod i wedi gadael jôcs homoffobig allan, ac mae Frankie Boyle yn linc neis i'r y pwnc hwn. Dwi ddim yn deall pam fod bobl yn bychanu neu’n gwahaniaethu yn erbyn pobl deurywiol, i ddweud y gwir, fel ddywedodd Jack Whitehall unwaith, “Dwi’n meddwl fy mod i’n homoffobig yn yr un ffordd dwi’n arachnophobic. Dwi ddim ofn pryfaid cop, dwi ddim ofn pobl hoyw, ond byddwn i’n debyg yn sgrechian os welwn i un yn fy math”. Ond dwi’n meddwl bod y mwyafrif o’r jôcs yn ddoniol. Nid am fy mod i’n meddwl y ffordd yna, ond fel jôcs hiliol a rhywiaethol, dwi’n deall pam eu bod nhw’n ddoniol. Ta ydyn nhw?…
O, dwi ddim yn gwybod, fyd. Pam na allwn ni i gyd gael ymlaen â’n gilydd a chwerthin ar ben ein hunain fel rydym yn chwerthin ar bobl eraill?
Diolch i ti, fyd.

No comments:

Post a Comment