Nodyn – Dwi’n trafod Duw a chrefydd yn fan hyn, er dwi ddim yn trafod unrhyw grefydd benodol (os nad fynegwyd fel arall). Dwi ddim yn grefyddol, felly gan gysidro hyn, plîs paid pechu efo unrhyw beth dwi’n ddweud. Plîs cadwa feddwl agored wrth ddarllen hwn, a gobeithio ti’n hoffi’r erthygl.
Annwyl Fyd.
Dwi’n gwybod mai dim ond am un deg naw mlynedd yn unig dwi wedi bod yn cerdded y byd hwn, ond mae un pwnc sydd yn drysu fi.
Oes.
Duw.
Wel, Duw a chrefydd.
Un peth dwi ddim yn deall yn iawn ydy hyn. Dychmyga os byddwn i yn marw nawr, ac os byddai’r peth crefydd yma yn wir, a byddwn yn troi i fyny o flaen giatiau nefoedd gyda dau i bobl eraill. Mae’r cyntaf, efallai o’r enw Sue, yn ddynes grefyddol, ac wedi bod ers genedigaeth. Mae’r ail, gall fod yn Trefor, yn dreisiwr ac yn llofruddiwr.
Mae tri ohonom yno, yn edrych ar giatiau’r nefoedd, ac rydym yn clywed llais yn dweud, am ryw reswm mewn steil y sioe gêm ‘The Price Is Right’ “bydd un ohonoch yn mynd yn syth i uffern, bydd y gweddill yn mynd yn syth i’r nefoedd ac yn mwynhau bywyd tragwyddol gyda dy greawdwr”.
Wrth i’r tri ohonom ddod i adnabod ein gilydd, y consensws cyffredin ydy mai Trefor fyddai’r un fwyaf tebygol i fynd i uffern, gan ei fod wedi treisio a llofruddio.
Ond, beth ydy hyn?
Mae fy enw yn cael ei alw?
Pam?
Beth ydw i wedi’i wneud?
Mae’r llais ymchwyddol yn dychwelyd… “Doeddet ti, Gareth, ddim yn credu mewn Duw. Ac felly am hynny, ti yn cael dy gondemnio i dreulio tragwyddoldeb yn fflamau uffern.”
Dwi ddim yn gwybod dim amdanat ti, ond os oeddwn i yn farw, a dyna fyddai’n digwydd, byddwn i wedi cythruddo. Dwi ddim wedi gwneud dim o’i le. Felly pam ydw i yn mynd i uffern? Wel, mae’n amlwg, yn tydi?…
Ydy o?
Wel, roedd y tri ohonom yn gwybod fod Sue am gael i mewn. Ond doedd yr un ohonom yn gwybod fod Trefor wedi edifarhau am ei bechodau tua blwyddyn cyn iddo farw, ac fe gafodd i mewn i’r nefoedd. Tra’r unig beth dwi wedi’i wneud ydy byw bywyd di-drosedd, a dwi dal yn cael fy ngyrru i dreulio tragwyddoldeb yn uffern, i gyd am fy mod wedi ei chael yn anodd credu mewn unrhyw fath o grefydd.
Dwi ddim yn gwybod amdana ti, annwyl fyd, ond pa blaned gall sydd yn gadael i dreisiwr a llofruddiwr gael i mewn i’r nefoedd am ei fod wedi dweud “dwi’n sori”? Dwi yn wastad wedi meddwl fod y rhai da i fod i gael eu gwobrwyo, tra mae’r drwg yn cael eu cosbi. Efallai fy mod i’n ddiniwed nawr, ond ni fedraf i weld sut gall peidio cael ffydd mewn Duw yn drosedd gwaeth na threisio, pedoffilia a llofruddiaeth. Ond, os ydy pedoffeil (er esiampl) yn dewis dweud “Maddeua i mi, fy arglwydd, am fy mhechodau”, mae’r person hwnnw efo llwybr pendant i’r nefoedd? Ble mae’r callineb yn hynny?
Dwi ddim yn gweld fy hun yn bod yn grefyddol byth, ond ni allaf fod yn sicr. Pan gychwynnais i’r Ysgol Uwchradd, nid oedd gen i unrhyw ddiddordeb mewn celf a cherddoriaeth. Nawr dwi’n astudio Technoleg Greadigol, yn dylunio amryw bethau ac yn creu cerddoriaeth fy hun (ond dim ond y gerddoriaeth, dwi ddim yn gallu ysgrifennu geiriau’r gân o gwbl). Dim rheswm pam dwi wedi dweud hyn wrthyt ti, dim ond ei fod yn dangos fod pobl yn newid, hyd yn oed os ydy’r esiampl dwi’n ei roi yn un sâl.
Ond, ar linell crefydd, dwi ddim yn gallu gweld fi'r dyfodol yn bod yn grefyddol. Pam dwi’n darllen neu’n dysgu rhywbeth am grefydd, nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr i mi.
Un esiampl ydy yn ystod priodasau, mae’n dweud (os ydw i’n cofio yn iawn) fod merched yn cael eu rhoi i’r gwŷr. Roeddwn yn meddwl mai undeb o ddau o bobl mewn cariad (heterorywiol neu hoyw) oedd priodas i fod, i fyw eu bywydau mewn hapusrwydd gyda'i gilydd, nid i ddyn fod yn berchen ar ei wraig (dwi ddim yn sicr sut byddai hyn yn gweithio mewn priodas hoyw, ond efallai ei fod yr un peth).
Rhywbeth arall sydd yn drysu fi. Mae Duw i fod yn ‘endid perffaith’ yntydi? Rhywun sydd yn gallu gwneud dim o’i le? Felly, pam fod pobl ofn Duw?
Do, fe wnaeth Ef y ras dynol (dwi ddim yn credu hyn, dwi’n defnyddio beth mae crefydd yn credu i ddadlau fy ochr). A pan mae’r ras dynol yn gwneud pethau, rydym eisiau bod gyda meistrolaeth (er esiampl, yn feistr o robotiaid a thechnoleg ddigidol). Rydym hyd yn oed wedi meistroli ras ein hunain (e.e. caethwasiaeth). Felly os ydy hyn yn anghywir, i fod mewn meistrolaeth, neu i fwlio eraill i wneud ein gwaith… byddai Duw yn gwneud yr un peth, gan mai ef ‘wnaeth’ y ras dynol?
A rhywbeth arall. Mae un o’r deg gorchymyn y ffydd Gristnogol ydy, dwi’n credu, i beidio addoli cerfluniau o Dduw (cywira fi os ydw i’n anghywir). Ond, fel ras dynol rydym i fod wedi ein gwneud gyda delwedd Duw neu rywbeth fel hynny, dyw hyn ddim yn golygu fod unrhyw gerflun sydd yn cael ei wneud yn addoli delwedd pwnc y cerflun a hefyd Duw ei hun?
Dwi’n gwybod, fyd. Dwi’n meddwl llawer gormod. Byddai’n well gen i feddwl gormod nag dim meddwl o gwbl. Dwi’n gobeithio fod hyn ddim wedi tramgwyddo unrhyw un, dim ond un un deg naw oed sydd wedi drysu efo crefydd ydw i. Rhywun eisiau helpu?
Diolch i ti, fyd.
No comments:
Post a Comment