Rhybudd – Mae yna rywfaint o regi yn yr un yma. Felly os wyt ti’n anhoffus o unrhyw air sydd yn gryfach na fiddlesticks, yna efallai na fyddi di yn cymeradwyo’r iaith yn yr erthygl hon. Nid yw’n cael ei wneud i ffieiddio, felly plîs cymera fo'r ffordd mae wedi’i fwriadu, Diolch am ddarllen, a mwynha weddill y post hwn.
Annwyl Fyd,
Fel yr wyt ti efallai yn ei wybod, os wyt ti wedi darllen fy llythyr diwethaf i ti, dwi yn flwyddyn olaf y cyfnod sydd yn cael ei adnabod fel ‘y blynyddoedd arddegau’. Ac, os wyt ti yn un sydd yn darllen nifer o bapurau newydd ac yn cysidro nhw i fod yn wir, dwi yn lleiafrif yn ei arddegau.
Pam?
Wel, am un peth, dwi ddim yn ysmygu (cyffuriau na sigaréts cyffredinol). Ac yn ail, dwi ddim yn yfed alcohol.
Efallai nad yw’r un cyntaf yn gymaint o sioc â’r ail, os wyt ti’n gallu ei alw’n ‘sioc’. Dwi’n deall nad yw bob person ifanc yn ysmygu. Ond, er ei bod hi’n anghyfreithlon i rywun dan un deg chwech (cywira fi os dwi’n anghywir) brynu sigaréts, mae yn parhau i ymddangos fel rhywbeth ffasiynol i wneud.
Efallai bod rhai pobl yn meddwl ei fod yn ffurf o wrthryfela. Fedri di ddim cael rheolaeth arnaf i nag beth dwi’n anadlu i mewn, meddai’r ferch ifanc, efallai o’r enw Simone, wrth iddi sugno anadl arall i mewn wedi’i lenwi gyda charbon a nicotin. Ymladd y pŵer, dyn ifanc, efallai o’r enw Jason, wrth iddo rolio ei drydedd sigarét mewn hanner awr. Ac wrth iddynt ysmygu eu ffordd i mewn i dymer drwg eu rhieni, ac yn gyd-ddigwyddiadol potensial achos eu marwolaeth, maen nhw i weld yn fodlon yn eu cred eu bod yn ymladd yr hawl i bartio.
Efallai fod hyn yn wir gydag alcohol. Un ai hynny neu bwysedd cyfoed.
Dwi wedi gweld pwysedd cyfoed o lygad y ffynnon. Yn enwedig gydag alcohol. Fe es i barti, y cyntaf es iddo wrth astudio am fy Lefelau A. Roedd pawb (wel, bron pawb) yn gofyn pam nad oeddwn i’n yfed. Yn wirion, fy ddywedais nad oeddwn i’n yfed. Cafodd yr ateb hwnnw wahanol ymatebion.
- Roedd rhai, er y lleiafrif, yn derbyn y ffaith hon, ac yn parhau i siarad gyda fi, neu fynd i ffwrdd yn fodlon.
- Roedd rhai eraill wedi brawychu, ac yn cwestiynu fi gyda ‘pam?’ a ‘be, di rhieni ddim isio ti’n ‘pissed’?’
- Tra roedd rhai, yn fwy tebygol o fod yn fechgyn, yn cynnig llymaid o’u diod, yn ailadrodd y mynegiad ‘cymera ychydig, cymera ychydig’.
- Roedd rhai eraill wedi brawychu, ac yn cwestiynu fi gyda ‘pam?’ a ‘be, di rhieni ddim isio ti’n ‘pissed’?’
- Tra roedd rhai, yn fwy tebygol o fod yn fechgyn, yn cynnig llymaid o’u diod, yn ailadrodd y mynegiad ‘cymera ychydig, cymera ychydig’.
Yn ganiataol, y rheswm pam fod y fath yma o bartïon yn cael eu cynnal oedd i ddod a phawb yn chweched flwyddyn at ei gilydd, trwy gyfrwng y Gymraeg. Na, dwi’n dweud celwydd, roedd o drwy’r cyfrwng o ddiod, a dwi ddim yn golygu te a sgonsen. I gychwyn, roeddent yn cael eu galw’n ‘Parti Bondio’ – ac roedd nifer o rai’r chweched yn eu galw’n ‘Parti Boncio’, hyd yn oed os nad oes y fath beth yn digwydd yn y partïon hyn. Yn ystod fy mlwyddyn ddiwethaf yn yr ysgol, fe gychwynnem ei alw’n ‘Parti Piss-up’, gan nad oedd unrhyw fondio yn mynd ymlaen, felly roeddent yn mynd i feddwi.
Pam ddywedais i’r darn diwethaf yna? Dim syniad. Oedd o i brofi pwynt mai’r unig beth mae pobl person ifanc yn feddwl amdano ydy meddwi a thwyllo eu hunain i feddwl eu bod yn cael amser da? Efallai, Ond dwi ddim yn gwybod.
Ond dwi’n gwybod un peth, mae nifer yn defnyddio alcohol fel esgus. Neu, yn fwy tebygol, mae pobl yn defnyddio gwahanol achlysuron a sefyllfaoedd i yfed alcohol. Ac mae’n gwneud i mi feddwl, pam fyddai pobl yn yfed i wneud eu hunain yn hapusach?
Dydy alcohol ddim yn iselydd?
Dwi wedi clywed llawer yn hawlio fod alcohol yn tawelu ti, yn cael ti mewn hwyliau da ac yn rhoi hyder i ti. Dyw’r frawddeg ddiwethaf yna yn gwneud dim synnwyr i mi. Efallai bod effaith plasebo yn mynd ymlaen, am eu bod yn meddwl bod alcohol yn rhoi hyder iddynt maent yn hyderus, er nad yw’r alcohol wedi gwneud dim i’w hyder. Ond dyna fy marn i, Fyd.
Wrth i mi ysgrifennu hwn, dwi’n meddwl yn ôl ychydig flynyddoedd, i amser lle roeddwn i hanner ffordd trwy astudio am fy ngraddau TGAU.
Roeddwn i ar y ffordd gartref, yn teithio ar y modd trafnidiaeth lawen sydd yn cael ei adnabod fel bws ysgol, ac roeddwn ynghanol trafodaeth gyda genethod (oedd ychydig flynyddoedd yn ieuengach). A rhywsut, daeth y drafodaeth at ddiod. Pan ddywedais nad oeddwn i’n yfed, roedd y genethod wedi brawychu, fel yr oedd bod yn sobor yn pechu.
Fe ddechreuais deimlo allan o le, am fy newis i fod yn sobor. Roeddwn yn teimlo fel bod criw o enethod ifanc yn edrych i lawr arna i am benderfynu yn erbyn bywyd gydag alcohol.
Pam fod pethau fel hyn yn digwydd? Wir?
Ddylai pawb ddim parchu penderfyniadau eraill mewn bywyd?
Atebion yn y man sylwadau, plîs.
Hoffwn i os taswn i yn gallu ehangu ymhellach, ond mae hen i hanner bocs o Celebrations ar ôl, a dwi’n ofni fod rhai o fy nheulu efo’u llygaid craff arnynt.
Diolch i ti, fyd.
No comments:
Post a Comment