Wednesday, 23 February 2011

Annwyl Fyd - Hyder


Annwyl Fyd
Beth ydy’r pwynt?
Beth dwi’n golygu ydy, mae yna bob tro rhywun sydd yn well na ti rhywle yn y byd. Rhywun sydd yn gallu rhedeg yn fwy sydyn, chwarae’n well (bod hynny’n chwaraeon neu’n offeryn) neu efo gallu ieithyddol uwch na ti.
Yn amlwg, mae hwn yn sôn am ‘Hyder’.
Beth dwi’n golygu ydy, gallet ddweud nad oes gen i hyder. Yn ystod y penwythnos preswyl diwethaf (yr adeg dwi’n ysgrifennu hwn, yn rhyfeddol), dwi wedi cyfarfod pobl sydd yn hunandybus neu’n hyderus (neu’r ddau). Un o’r pethau roedd rhaid i mi wneud oedd rant tri deg eiliad am unrhyw beth. Cychwynnais i un fi ar alcohol, dwi’n casáu fo a phopeth amdano.
Neidiodd un person i mewn,  a chychwyn mynegi ei farn. Y hiraf roedd y person hwn yn gwneud hyn, roedd y grym yn glir i weld. Trechodd y person yma fi mewn hyder. Doedd gen i ddim, nid i ddadlau, dwi’n credu fod fy marn i mor ddilys â’r person nesaf sydd yn credu fod rhywun yn rhywle ddim yn derbyn eu synfyfyrio.
Y mwyaf roeddwn i’n gwrthsefyll fy marn, roedd y person yma’n curo fi gyda’u hyder yn galetaf. Yn y diwedd cerddais i ffwrdd a mynd yn ôl i’m hystafell, ac yn gyd-ddigwyddiadol roedd gwely ynddo.
Wrth i mi eistedd ar fy ngwely, yn yfed o fotel o ddiod, sylweddolais rywbeth. Yr unig ffordd ti’n gallu cael ymlaen yn y byd yma ydy i gael hyder.
Un esiampl, dwi’n credu dwi wedi trafod efo ti o’r blaen, ydy efo canmoliaethau. Dwi’n meddwl llawer o bethau hyd yn oed cyn i mi gysidro canmol rhywun, fel “Sut fydden nhw’n ei gymryd?”. “Fydda i’n swnio fel stelciwr?” a “Beth ydy’r pwynt, maen nhw wedi clywed y cwbl o’r blaen”. Tra byddai person llawer fwy hyderus yn canmol eu targed yn hawdd.
Yn cyfeirio at y brawddegau cyntaf dwi wedi ysgrifennu. Dwi’n clywed nifer o bobl yn dweud “Paid gwrando arnyn nhw” neu “Paid cymharu dy hun yn eu herbyn”.
Pam ddim?
Mae gen i obsesiwn bach efo ystadegau, mae gen i ddiddordeb mawr mewn sut mae stwff penodol yn ymdopi a sut mae wedi datblygu. Nawr, os na fyddwn i’n cymharu fy hun yn erbyn pobl eraill, yna fyddwn i ddim yn gwybod lle ydw i yn y byd mewn proffesiwn neu allu penodol.
Dyma brif esiampl. Wrth astudio am fy lefel A, roeddwn i’n treulio amser gydag ychydig o hogiau. Roedd pob un ohonynt yn chwarae gitâr, gydag un neu ddau yn chwarae gitâr bas a drymiau. Roedd tri o bobl yn y dosbarth yn chwarae’r drymiau – fi, Bob a Bill.
Roedd Bob wedi chwarae’r drymiau am gyfnod hir, ac roedd hynna'n glir wrth ei glywed yn chwarae’r offeryn. Roedd Bill, ar y llaw arall, yn ddysgwr, fel fi, ond roedd o’n eithaf da.
Dwi ddim yn sicr sut mae Bill yn gweld pethau, dwi’n credu fod gen i’r un lefel sgil ag ef. Nid ydym yn feistr ar yr offeryn, ond byddai rhywun yn gofyn i ni dorri allan curiad neu jamio i riff mae’r gitarwyr yn chwarae, yna byddai Bill a finnau yn gallu gwneud hyn yn eithaf rhwydd. Oedd, roedd Bill yn well na finnau mewn rhai agweddau ac roeddwn i’n well mewn rhai eraill.
Ond, o gymharu â Bob, byddai’n ymddangos mai dim ond amaturiaid syml ydym ni. Os byddet ti’n graddio ni ar ein gallu o un i ddeg, byddai Bob yn naw a chwarter, tra byddai Bill a finnau yn rhannu pump a hanner eithaf parchus. Os na fyddwn i’n adnabod Bob neu Bill, fyddwn i ddim yn gwybod beth dwi’n anelu at na sut dwi’n gwella.
Ac eto, dwi’n gwneud hynny mewn pob agwedd o’m mywyd – yn golygu delweddau, deallusrwydd, chwarae offerynnau, hyd yn oed y ffordd mae pobl yn siarad a'u barn (ond dwi’n gwneud hynny mewn ffordd ddeubegwn, ddim o un i ddeg. Dwi’n gobeithio fod hynna yn gwneud synnwyr).
Dwi’n gobeithio, annwyl fyd, nad wyf wedi colli ffrind ynddot ti wrth i ti ddarllen y glafoerio difeddwl yma. Plîs maddeua fi am fy ngwiriondeb, fe ymchwilia’i fewn i sut i adennill fy hyder.
Diolch i ti, fyd.

Tuesday, 15 February 2011

Annwyl Fyd - Trais


Annwyl Fyd.
Mae’n saff dweud nad wyf i mewn unrhyw ffordd yn wryw alffa. I ehangder mwy, dwi’n fwy o wryw omega nag un beta. Dwi ddim efo llawer o ddewrder, nac efo hyder.
Dwi ddim efo dewrder corfforol epig ychwaith, felly dwi erioed wedi bod mewn cwffio corfforol. Wel, nid yw hynny yn hollol wir. Fe wnes i grogi hogyn pan oeddwn i yn flwyddyn naw am ei nad oedd wedi bod yn hollol groes o gwrtais i mi yn y tair blynedd diwethaf. Ar ôl i mi ei ddal yn erbyn y wal, yr unig beth oedd ganddo ond digrifwch tuag ataf am weddill y blynyddoedd adnabuwyd ein gilydd. Ond ia, dwi ddim yn cynghori neb i wneud hynny, dim ond fflipio’n fisged blas dicter wnes i. Neis.
Beth dwi’n anelu tuag ato ydy trais. Dwi ddim mewn unrhyw ffordd yn dda gyda thrais na chwffio. Dwi’n ei chael yn anodd i hyd yn oed gwylio bocsio heb boeni am sgil effaith posib bydd y rhai sydd yn cymryd rhan ynddo yn ei ddioddef, fel trwyn gwaedlyd, neu golled clust. Wyddet ti byth.
Rwy’n poeni cymaint fel nad wyf yn deall pam fod pobl yn chwilio yn unswydd ar YouTube am bobl yn cwffio. Roeddwn i’n dyst i hyn yn ystod darlith Electroneg. Roedd un myfyriwr nad oedd â chlem beth i wneud, a ni ofynnodd chwaith. Felly, i ffwrdd ag ef ar y Tube o’r math You, teipio ychydig o eiriau, clicio ar linc ac mor sydyn a ganiatâi cysylltiad band llydan y brifysgol, dyma fideo yn ymddangos ar y sgrin.
Ei deitl? Rhywbeth tebyg i “World’s Best Knockouts”.
Ac na, nid am focsio oedd o.
Roedd y fideo yn fontage o ddynion yn taro dynion eraill allan am amryw resyma. Un ai i sefyll i fyny drostynt eu hunain wrth i grŵp geisio aflonyddu eu noson, i ffyliaid llwyr yn curo eu hunain yn bwlp am eu bod llawn alcohol a’r camsyniad fod cryfder yn hafal i bopeth yn y byd.
Ble mae’r hudoliaeth yn hynny?
Mae fel yr ysgol, pan mae bron i bawb yn ffurfio cylch o gwmpas rhyw bobl hurt sydd yn cwffio wrth weiddi “ffeit” mewn ffordd gor-frwdfrydig. I fod yn onest, dwi ddim yn gwybod beth sydd waethaf – y rownd adolesent o 'ffisticyffs' neu’r gweiddi di-stop gan y wal gron o wylwyr i annog casineb i’r byd.
Ond, beth dwi’n ceisio’i gyrraedd yn fan hyn? Wel, roedd o’n rhywbeth clywais gwpl o ddiwrnodau yn ôl.
“Ydy hi’n dderbyniol i daro dy blentyn byth?”
Dwi ddim yn gwybod, ond mae hynny yn rhywbeth eithaf od i ofyn. Yn amlwg, mae hi yn dderbyniol i daro dy blentyn. Wel, dim ond os ydynt yn dioddef eu bywydau. Dwi ddim yn arbenigwr, gan nad oes gen i blant ac ati, ond mae’n ymddangos yn eithaf eithafol i daro dy blentyn di ond am eu bod wedi gwneud rhywbeth bach fel peidio gwrando neu rywbeth tebyg.
I mi, dim ond ar un adeg mae hi’n dderbyniol i daro plentyn, a hyd yn oed wedyn maen nhw ymhell ar eu ffordd i oedolaeth. Fel yr wyf wedi dweud o’r blaen, dwi’n meddwl yr unig amser mae’n dderbyniol ydy os ydy plentyn yn dioddef eu bywyd. Gyda hyn, beth dwi’n golygu ydy gwastraffu ei fywyd ac arian ar alcohol a chyffuriau.
A gyda hynny, dwi ddim yn golygu byddaf yn rhoi slap i wyneb fy mhlentyn y cyfle cyntaf ddaw wedi i mi sylweddoli eu bod wedi cymryd y newyn, ond os ydw i’n gweld mai eu presennol fydd diwedd eu dyfodol ac nad ydynt yn gwrando, yna efallai byddwn i’n rhoi smacen sydyn. A dim ond os ydw i wedi gwylltio’n ofnadwy ac yn teimlo’n rhwystredig.
Er, gan y byddwn i’n cysidro fy hun yn berson eithaf hen ffasiwn, fyddwn i ddim yn gwneud hynny os mai benyw oedd y plentyn. Neu, i roi o mewn termau gwahanol, os byddai gen i ferch yn ddibynnol ar grac.
Dwi erioed wedi meddwl ei fod yn dderbyniol bod yn dreisgar tuag at ferched.  Wel, mae yna wastad eithriad sydd yn torri’r gyfraith. Yn yr achos hwn, os yw merch yn ceisio lladd fi. Os byddai merch o’r enw Sunita, er esiampl, yn dod ataf i gyda chyllell gegin a phaced o greision Marmite, yna yn amlwg fe wna’i gwffio’n ôl. Wel, dwi’n dweud cwffio’n ôl, byddwn i yn ceisio amddiffyn fy hun, yn y ffordd gorau fydda’n gwneud y lleiaf o niwed iddi hi. A gan nad oes gen i unrhyw brofiad o hunan amddiffyniad, efallai byddaf yn gwneud niwed iddi’n ddamweiniol. Yn anfwriadol, wrth gwrs.
Ond, un peth sydd yn taro fi fel bod yn eithaf bisâr ydy rhywbeth digwyddais glywed ychydig yn ôl. Dywedodd un dyn rhywbeth tebyg i “os ydy merched eisiau’r un hawliau â dynion, yna fe ddylai nhw fedru cymryd pwnsh neu fynd yn ôl i’r gegin”, sydd, i mi, yn ymddangos ar yr ochr eithaf rhywiaethol o’r sbectrwm.
Dwi ddim yn deall y broses meddwl yna. Fe ddylai cyfartaledd fod i bawb, nid i’r rhai sydd efo pidyn yn unig. Efallai dyna beth maent yn golygu drwy ddweud – “Mae pawb yn cael ei eni’n gyfartal, er mae rhai pobl yn cael eu geni yn fwy cyfartal nag eraill”. A beth bynnag, dwi’n gwybod am rhai merched sydd yn gallu cymryd pwnsh yn llawer gwell na allwn i, a gallai ddelio mwy o niwed yn ôl. Ac na, nid ymchwil gwyddonol mo hynny, dwi ddim wedi leinio pobl i fyny a chychwyn pwnsio nhw, yn gadael iddynt bleidleisio pwy roddodd y poen mwyaf, yna gwneud yr un peth wrth iddynt guro ni i hanner marwolaeth.
Dal ar am funud, pam fod rhaid iddo fod yn dderbyniol fod yn dreisgar tuag at unrhyw un beth bynnag? Iawn, fedrai ddeall ychydig pam mewn chwaraeon, ond ddim mewn bywyd cyffredinol.
Diolch i ti, fyd.

Wednesday, 2 February 2011

Annwyl Fyd - Canmoliaeth


Annwyl Fyd.
I fod yn onest, dwi’n meddwl fod y gelf o ganmoliaeth yn beth eithaf aflonyddus. Gad i mi fanylu.
Fel mae pobl yn dweud “mae’n well rhoi na derbyn”, fe wna'i adael y gorau tan ddiwethaf a thrafod derbyn canmoliaethau gyntaf. Wel, hynna a’r ffaith nad wyf yn eu cael yn aml. Ha.
Na, i fod yn gwbl ddifrifol, dwi’n eithaf gwael pan ddaw i dderbyn canmoliaeth. Dwi ddim yn mynd “o ia” ac yn gwneud dawns mor wych fel ei fod yn gwneud i uncyrn (unicorns) wylo dagrau enfys o lawenydd byddai’n datrys problemau dyled y byd gyda digon ar ôl i wneud yn sicr fod yr iaith Gymraeg yn cael ei glywed dros y byd, gan y byddai hynny yn eithaf trahaus ohonof.
Na, yr unig beth fydda i'n gwneud ydy dianc i mewn i fi fy hun. Dwi’n mynd yn eithaf swil, yn dweud “diolch” yn ddistaw bach a symud y drafodaeth yn ei flaen oddi wrtha i mor sydyn â phosib. Gallai fod yn ganmoliaeth mor fach â “mae gen ti ramadeg da”, a dwi dal yn ei chael yn anodd credu. Wel, os nad yw’n rhywbeth dwi hefyd yn feddwl sydd yn wir.
Dwi ddim yn bod yn ben mawr yma, ond dwi yn credu fy mod i’n gallu trin llinynnau’r iaith Saesneg a phinsio nhw fel eu bod yn gwneud beth dwi eisiau wrth greu brawddeg gywir, er dwi’n credu fod fy niffyg geiriau a gwybodaeth o’r rheolau yn dal fi’n ôl. Pam fy mod i dal i fynd ymlaen am hyn? Dim syniad. Pam na wnes i ddweud “Dwi’n gallu creu brawddegau hanner gweddus” yn lle’r ‘fail’ yna o frawddeg? Dim ond mab rhywun sydd efo rhif cyfartal o lafariaid a chytseiniaid yn eu henw cyntaf a chyfenw gall ateb hynny.
Fel gallet ddweud mai’n debyg, dwi’n ei chael yn hyd yn oed mwy anodd i roi canmoliaeth. Pam? Wel, mae nifer o ffactorau am hyn.
Gad i ni gymryd esiampl dwi wedi profid fy hun. Llynedd, fe welais rywun. Wel, fe welais o leiaf cant o bobl llynedd, ond ti’n gwybod beth dwi’n feddwl. Hogan dwi’n adnabod oedd y rhywun yma, a byddai dweud ei bod hi’n dlws ddim yn dweud digon. Yn sicr, roedd hi bob tro yn edrych yn neis, ond ti’n gwybod beth dwi’n feddwl. Wrth iddi gerdded tuag ataf, beth ddywedais? Wel, yr amlwg…
Siaradais am y tywydd. Smŵdd dwi ynte?
Ond, beth allwn i ddweud? Os byddwn i yn dweud rhywbeth canmoliaethus, roedd siawns uchel iawn y byddai’n dod allan mewn ffordd “dwi ddim yn hyderus yn beth dwi’n ddweud” math o ffordd, gallai ganlyn ynddi hi’n meddwl fy mod i’n dweud celwydd. A hyd yn oed os oedd beth oeddwn i eisiau ei ddweud yn swnio’n iawn, mae’r siawns ei bod hi wedi ei glywed o’r blaen yn uchel iawn.
Beth roeddwn i hefyd yn meddwl oedd sut y byddai’n derbyn y ganmoliaeth yma. Efallai, os byddwn i’n dweud rhywbeth am ei hedrychiad ar y diwrnod hwnnw, byddai hi wedi meddwl fy mod i yn trio hi ar efo hi. Un a’i hynny, neu yn rhoi fi ar ei “rhestr creep” meddyliol sydd ganddi efallai. A do, dwi wedi cael yr holl syniadau hyn mewn cyn lleied â thri eiliad. Efallai nad wyf wedi’n nylunio yn dda iawn i roi canmoliaeth, ond mae gen i feddwl sydyn. Gallaf hyd yn oed feddwl am stwff yn fy llygaid caeedig, Mae’n dalent gymrodd amser maith i feistroli, ond dyw Britain’s Got Talent ddim yn cytuno.
Rhywbeth arall byddwn i’n ei chael yn annifyr ydy, beth os oedd grŵp o bobl, sut wyt ti’n ymddwyn wedyn? Wyt ti’n canmol y rhai ti’n credu sydd yn haeddu canmoliaeth? Os felly, yna efallai dy fod yn sarhau’r eraill yn y grŵp heb fod eisiau. Neu, wyt ti’n dweud rhywbeth wrth holl aelodau’r grŵp? Rhywbeth fel “Carla, ti’n edrych yn eithaf prydferth heno. Tina, ti hefyd yn edrych yn eithaf neis. Anna, mae’n neis ohonot ti i droi fyny hefyd”? Er, wrth wneud hyn, byddwn yn creu rhyw fath o “ddosbarth o brydferthwch”. Ac er eu bod yn gwybod yn gyfrinachol, a dwi’n gwybod, byddai’n hollol anghywir i fi ddweud hyn.
Felly, ydy hyn yn golygu y dylwn i wneud sylwadau generig ar bob un ohonynt, rhywbeth fel “rydych chi i gyd yn edrych yn eithaf lyfli heno”? Ond os byddwn i, byddai’r ganmoliaeth yn ddim ond ychydig eiriau wedi’u cymysgu gyda’i gilydd i greu rhywbeth sydd yn cael ei ddweud bob dydd. Fel “helo”. Neu “bybl wrap”.
Dwi ddim yn gwybod i ba raddau, ond dwi’n gwybod fy mod yn swnio’n berson eithaf dienaid yma. Wel, nid dienaid, ond dwi’n gobeithio ti’n deall beth dwi’n ceisio’i ddweud. Ac os ddim, gallet smalio efallai? A, dyna’r un peth amdanaf i efallai byddwn yn newid os petawn yn cael y cyfle, ac wedyn gallwn i fod yn actor gweddus. O wel.

Thursday, 27 January 2011

Annwyl Fyd - Rhyfel


Annwyl Fyd,
Dwi’n gwybod ei bod hi’n anodd credu, ond mae gen i ffrindiau.
Fel fi, mae rhai ohonynt yn blogio o bryd i’w gilydd. Er, ar ôl ail ymweld â blog wedi’i ysgrifennu gan fy ffrind, Andrew (neu Snefru7, ei enw blog), mi ddechreuais feddwl.
Mewn un post penodol (gallai weldyma, er, fel y linc uchod mae'n cynnwys geiriau rheg, felly dwi wedi rhybuddio), mae’n ysgrifennu am ei farn ar ryfela, a sut mae’r cyfryngau asgell dde yn canmol y lluoedd arfog sydd yn gwasanaethu yn Afghanistan a gwledydd eraill mae Prydain wedi bod yn rhyfela â nhw.
Ac, gan amlaf yn y blog, roedd yn gywir. Nid yw’n gwneud synnwyr i oresgyn gwlad, dymchwel arweinydd y wlad honno a galw hyn yn ‘amddiffyn’. Fel mae’n dweud, Prydain oedd y grŵp ymosodol yn y rhyfel. A hyd yn oed os, fel maent yn ei ddweud, “ymosodiad ydy’r ffurf gorau o amddiffyn”, ymosodiad ydyw.
Ond, wrth i mi ddarllen drwy ei flog, trawodd rhywbeth fi fwy nag unrhyw beth arall. Y sylweddoliad o beth ydy rhyfel.
Dwi’n gwybod. Dwi wedi ail ddarllen y frawddeg ddiwethaf yna tua deuddeg gwaith, ac mae’n swnio fel sylwad diniwed iawn. Ond mae’n wir. Pan roeddwn i’n ifanc, ychydig o flynyddoedd yn ôl bellach, roeddwn i’n meddwl bod bron pob rhyfel yn dderbyniol.
Os oedd un wlad yn dechrau tyfu byddin i ddymchwel gwlad arall am ddim rheswm, yna roeddwn i’n arfer meddwl ei bod yn iawn i fynd i ryfel gyda’r wlad honno a mudo unrhyw fygythiad yno. Dwi’n gwybod, roeddwn i efo meddyliau gwaeth pan oeddwn i’n ifanc. Ond plîs cofia, roeddwn i yn ifanc iawn bryd hynny.
Er fy mod i’n meddwl hynny, roeddwn i’n gwybod fod marwolaeth efo’i lle yn y gelf o ryfel. Roeddwn i’n gwybod, mewn rhyfel damcaniaethol, yn ddamcaniaethol byddai colled ar y ddau ochr.
Pan ddarllenais i’r blog fe sylwais fod rhyfel ddim yn farwolaeth yn unig, mae’n llofruddiaeth. Dydy’r rhai sydd yn cerdded ar faes y gad ddim yno am fod nhw eisiau o. Maent yn credu, rhywsut, eu bod nhw’n amddiffyn y Frenhines a’r Wlad (yn achos Prydain, hynny yw). Ond wrth wneud hyn, yn cofrestru gyda’r gwasanaeth milwrol, maent mewn gyrfa sydd yn cynnwys llofruddiaeth.
A dyna’r peth wnaeth gael effaith arnaf i.
Roeddwn i’n arfer meddwl, fel y mwyafrif o’r papurau newydd, fod unrhyw un sydd yn mynd i ryfel yn arwr. Fod pawb sydd yn goroesi maes y gad yn haeddu canmoliaeth. Ond, wrth i mi dyfu i fod yn ddyn di-waith fydd mewn dyled am y 25 mlynedd nesaf (a’r gweddill), dwi wedi sylweddoli nad dim dyma’r achos mewn realiti.
Roeddwn i’n gwybod, o oedran ifanc, nad oeddwn i'n perthyn yn y gwasanaeth milwrol. Yr unig ffordd gei di fi mewn unrhyw garfan o’r gwasanaeth milwrol ydy os byddwn i’n dylunio eu gwefan nhw neu rywbeth sydd ddim yn golygu fi yn tynnu ar driger yn erbyn dyn arall, ta waeth ei gred. Yn dweud hynny, byddwn i’n debyg yn teimlo’n lletchwith pan ddaw at dalu clod i filwyr sydd yn cael eu brandio’n “arwyr”.
Ond, mae hynny yn rhywbeth arall drawodd fi. Dwi ddim yn meddwl gallwn i ddweud hyn mewn person. Pam? Dwi ddim yn gallu bod yn siŵr pam. Er efallai fod parch rhywbeth i wneud gydag ef. Ti’n gwybod, gan nad wyf yn cytuno’n llwyr gyda dewisiadau’r ‘arwyr’ gallai hyn wneud i rai pobl feddwl fy mod i’n berson ofnadwy.
Dwi’n gwybod, nid yw’n iachus iawn poeni beth mae pobl eraill yn ei feddwl ohonot ti, ond dwi ddim yn gallu helpu’r peth. Dyna pam dwi fel arfer yn cadw fy marn i fi fy hun. Wel, hyd yn hyn. Ond, yn ôl at y pwnc.
Er fy mod i’n cytuno gyda barnau Snefru7 gan amlaf, dwi yn gallu deall (i raddau) yr angen am wasanaeth milwrol. Dim ond un rheswm sydd pam fod y fath hon o swydd yn bodoli, am ein bod ninnau yn byw mewn byd paranoid.
Rydym i gyd yn ymwybodol o’r pryderon am y posibilrwydd o ryfel niwclear, sydd yn cynnwys y fath arfau gallai droi Prydain i mewn i ddilyniant llwch ymbelydrol  (os nad ydw i wedi camddeall y sefyllfa gyda Gogledd Korea ac Iran).
Fe fyddai’n gwbl onest efo ti, Fyd, dwi ddim y deall holl fanylion pam fod rhyfeloedd yn bodoli yn glir. Pam na fedrwn ni wneud te ac nid rhyfel?
Dwi’n diolch i ti, fyd.

Tuesday, 18 January 2011

Annwyl Fyd - Jôcs Budur


Nodyn – Mae’r mwyafrif (wel, bob un) o’r linciau uchod yn fideos o YouTube, gyda’r mwyafrif efo rhegi neu’n eithaf sarhaus yn beth maen nhw'n ddweud. Meddwl byddwn i’n gadael i ti wybod cyn i ti glicio arnynt a dwrdio fi am hyrwyddo iaith gref ac ati. Diolch.
Annwyl Fyd
Hoffwn ofyn cwestiwn i ti.
Ydy hi’n anghywir i chwerthin ar jôcs sydd yn cael eu cysidro’n ddrwg? Ti’n gwybod, fel rhai hiliol a rhywiaethol?
Gad i mi ehangu o beth dwi wedi’i weld yn ddiweddar. Dwi (dal, rhywsut) yn y brifysgol, ac yn ffrindiau gyda hogyn oedd yn arfer byw yn Iran. Bob tro dwi’n ei weld, mae bob tro’n dweud rhywbeth wrtha i am fod yn wyn, neu am fod yn Gymraeg.
Esiampl o rywbeth byddai’n ddweud amdanaf i'n bod yn wyn ydy pan roedd hi’n bwrw eira, a dechreuodd alw fi’n “pluen eira” a dweud y byddwn i’n ninja gan na fyddai neb yn fy ngweld i. Esiampl arall ydy pan siaradais Gymraeg i ddarlithydd, ac fe honnodd ein bod yn hiliol gan mai dim ond y darlithydd a finnau oedd yn deall ein gilydd, gan nad oedd yr un myfyriwr arall yn y dosbarth yn siarad yr iaith braf sydd yn cael ei adnabod i bawb fel Cymraeg.
Roeddet ti’n gallu clywed yn ei lais nad oedd o’n hollol o ddifri. Os oedd o, roedd o’n ei guddio’n dda. Ac os byddwn i, neu unrhyw berson arall yn ein cylch o bobl, yn dweud jôc neu unrhyw beth allai gael ei feddwl yn hiliol yn ei erbyn o, mae’n ymateb yn yr un ffordd a fyddaf i. Yr unig wahaniaeth ydy ei fod o yn dod yn ôl gydag ymateb doniol, fel arfer yn dweud rhywbeth llawer gwaeth wedi’i dargedu yn erbyn ei hun.
Felly beth dwi’n drio’i ddweud yn fan hyn? Mae yna lefel o hiliaeth yma. Mae ef yn dweud na fyddai neb yn gallu gweld fi pan fydd hi’n bwrw eira yn prif esiampl, ond ddim yn un da. Ond ydy hyn yn bod yn hiliol?
Mae’r un peth yn wir gyda merched, mewn ffurf rywiaethol ac nid hiliol. Os wyt ti’n mynd ar wefannau penodol, fel Failblog, Sickipedia neu debyg, mae’n ymddangos fel bod barn eithaf rhywiaethol am ferched. Y prif un ydy rhywbeth tebyg i “os ydy coeden yn disgyn ar ferch yng nghanol y coed, pam nad yw’r ferch yn y gegin?”
Ond pam?
Dim syniad.
Iawn, mae’r rhan fwyaf o’r gwefannau hyn yn ymwneud ag adloniant jôcs, felly nid yw pob un yn bwriadu bod yn filain. Er, pa bryd mae hyn yn mynd yn rhy bell?
Fedra i ddim ateb hynna, gan fod pawb yn wahanol. Cysidra’r jôc yna am ferched uchod. Y tro cyntaf clywais i hwnna, fe chwarddais. Fedra’i ddim gwadu hynna. Ond, roeddwn i yn meddwl ei fod yn gras. Nawr dydy pob jôc rywiaethol “merch, cer i mewn i’r gegin” dwi’n ei glywed ddim yn gwneud synnwyr. Ar adegau prin iawn, dwi’n clywed jôc rywiaethol sydd yn gwneud i mi chwerthin, rhywiaethol yn erbyn dynion a merched, ond os mai’r unig beth mae’n sôn amdano ydy’r gegin a diffyg gallu i ofyn am gyfarwyddiadau pan ar goll, yna mae’n ddiwerth.
Mae un peth yn sicr, mae pawb efo gwahanol lefel goddefiant pan ddaw at y math yma o jôcs. Fel bydd un person yn chwerthin yn uchel i jôc sydd yn cynnwys Hitler a beth wnaeth o i’r rhai sydd yn credu yn ffydd yr Iddewig, bydd person arall efallai yn crynu wedi dychryn ac wedi’i ffieiddio gan eu bod yn ddiweddar wedi cael eu tramgwyddo gyda jôc am y Cymry.
I mi, fedra i chwerthin am bron i bob dim. Ac, am ryw reswm, dwi ddim yn teimlo’n esmwyth yn dweud hynna. Wrth i ti wylio pennod o Mock The Week ar YouTube neu Dave, fe fyddi di, cyn hir, yn clywedFrankie Boyle yn dweud jôc. Fel arfer, mae ei jôcs gwneud yn ysgafn o bynciau tywyll, yr esiampl gorau o hyn ydy, yn ystod “llinellau na fyddet ti’n clywed mewn ffilm ‘superhero’ rhan o “Scenes We'd Like To See”, mae’n cerdded i fyny at y microffon, ac yn dweud “A’i deryn yw e? A’i awyren yw e? Beth bynnag ydy o, mae’n anelu’n syth am Canolfan Masnach y Byd (World Trade Centre).”
Chwarddodd y gynulleidfa. Wel, ddim yn syth cofia. Roedd y stiwdio wedi’i llenwi gydag ebychiadau. Ond fe ddywedai un peth wrthyt ti, ar ôl i mi ebychu, chwarddais. Ydy hyn yn gwneud fi’n berson cas? Ydy hyn yn golygu mod i’n meddwl fod y bobl bu farw yn 9/11 yn ddoniol? Yn bersonol, fyddwn i ddim yn dweud hynny. Ond yna, efallai dy fod di’n meddwl fy mod i’n berson dideimlad gyda llai o gydymdeimlad na chath i lygoden heb goesau.
Dwi newydd sylwi mod i wedi gadael jôcs homoffobig allan, ac mae Frankie Boyle yn linc neis i'r y pwnc hwn. Dwi ddim yn deall pam fod bobl yn bychanu neu’n gwahaniaethu yn erbyn pobl deurywiol, i ddweud y gwir, fel ddywedodd Jack Whitehall unwaith, “Dwi’n meddwl fy mod i’n homoffobig yn yr un ffordd dwi’n arachnophobic. Dwi ddim ofn pryfaid cop, dwi ddim ofn pobl hoyw, ond byddwn i’n debyg yn sgrechian os welwn i un yn fy math”. Ond dwi’n meddwl bod y mwyafrif o’r jôcs yn ddoniol. Nid am fy mod i’n meddwl y ffordd yna, ond fel jôcs hiliol a rhywiaethol, dwi’n deall pam eu bod nhw’n ddoniol. Ta ydyn nhw?…
O, dwi ddim yn gwybod, fyd. Pam na allwn ni i gyd gael ymlaen â’n gilydd a chwerthin ar ben ein hunain fel rydym yn chwerthin ar bobl eraill?
Diolch i ti, fyd.

Monday, 10 January 2011

Annwyl Fyd - Diwrnod Arall


Annwyl Fyd,
Ga'i fynd a ti yn ôl i Awst llynedd? Caf? O, ti’n garedig iawn.
Y diwrnod cyn canlyniadau fy lefel A. Roeddwn i’n darllen fy mhorthiant Facebook i weld nifer o’r un diweddariad statws gan amryw o fy ffrindiau. Dwi ddim yn cofio beth oedd o, ond roedd y mwyafrif o’m ffrindiau yn cael panig dros eu canlyniadau, yn un ai’n ddiffyg cwsg dros eu dyfodol anhysbys, neu’n teimlo’n nerfus am y sefyllfa.
A dim ond un peth dwi’n gallu meddwl amdano.
Dim ond diwrnod arall ydyw.
Dwi’n gwybod. Bydd y pedwar gair yna wedi cael eu rhoi ar fy ngherdyn busnes, fy CV a fy ngharreg bedd. Dwi wedi’i ddweud o am y Nadolig, am fy mhen-blwydd, a nawr canlyniadau lefel A.
Iawn, mae yna rhai pethau yn fy mywyd fydd ddim yn ddiwrnod arall yn unig. Efallai byddaf yn priodi, ni fydd hynny fel unrhyw ddiwrnod arall. Mae’r un peth yn wir am enedigaeth fy mhlant (ha). Neu, a dwi’n casáu dweud hyn, marwolaeth rhywun agos. Heblaw am y digwyddiadau potensial yna, gyda dim ond un o’r sefyllfaoedd yna gellid dianc oddi wrtho, mae pob diwrnod arall yn un arall sydd raid i ni fyw drwyddo.
Ond, ar y funud hon, yn syllu i lawr gwn tair baril. Mewn un mae’r fwled wedi’i lenwi gydag ychydig o glorid. Y llall, bwled wedi’i lenwi gydag electronau yn rasio o’i gwmpas. Yr un diwethaf, bwled yn llawn sain felys aflwyddiant. Neu, os nad wyt ti wedi dyfalu bellach, mae’r siambrau a’r bwledi yn cynrychioli'r lefelau A eisteddais i – Cemeg, Ffiseg a Thechnoleg Cerddoriaeth. Os byddwn i’n pasio’n llwyddiannus, byddai’r tair siambr yn toddi i mewn i goctel o liw a sŵn. Os byddwn i’n aflwyddo, byddai pob bwled yn llenwi fy nghorff gydag anobaith ac amheuaeth. Meddyliau hapus i fachgen 18 oed.
Ond ar y diwrnod, triawd o ddos o drychineb twyll oedd o, wrth i mi ddarganfod fy mod wedi llwyddo i gael tri D yn y tri phwnc. Golygai hyn fod y tri bwled wedi’u saethu, dim ond iddynt fethu fi o nano-amedr, ac roeddwn i’n ddiogel i gerdded i mewn i’r cwrs o’m newis yn y brifysgol. Fy ffrindiau? Wel, roedden nhw’n poeni am ddim wrth iddynt gael graddau da, ond roedd lleiafrif ohonynt wedi cael trafferth i gael i mewn i brifysgol am un rheswm neu’i gilydd. Ond nid dyma’r pwynt.
Y peth ydy, ydw i’n anghywir i feddwl fod pob diwrnod sydd yn digwydd yn ddiwrnod arall yn unig? Beth rwyf yn olygu ydy, esiampl fwy diweddar ydy Dydd Calan. Roedd pawb, o Sydney i Foscow, yn dathlu genedigaeth flwyddyn newydd. Wrth i’r newyddion gyrraedd fy nheledu, syllais ar y tân gwyllt. Dim ond un peth oeddwn i'n feddwl.
Beth oedd y peth yna? Wel, nid yw’n amlwg?
Pam? Pam hyn i gyd?
Roeddwn i’n gwybod yn iawn pam. Mae pobl eisiau cael y cyfle i roi’r gorffennol tu cefn iddynt, ac edrych ymlaen at y dyfodol. A pa gyfnod gwell na pan mae calendr newydd ar wal dy dŷ? Wel, dwi’n dyfalu mai dyma beth mae pobl eisiau ei wneud, dwi ddim wedi cyfarfod pawb yn y byd i ddweud y gwir.
Am ryw reswm, roeddwn i’n gweld y diwrnod fel rheswm i bawb feddwi. A  dyma ydy o, nage? Ond dwi ddim yn mynd i ddiflasu ti gyda hynna i gyd, gan dy fod di’n debyg yn gwybod beth rwyf yn feddwl o hynna o’m llythyr arall i ti. Ho hym.
Ond, fe ofynnai gwestiwn i ti, sut gallaf i gael gwared â’r ideoleg yma sydd wedi cymryd ei le yn fy ymennydd? Sut fedra i beidio meddwl fod pob diwrnod yr un mor arferol â’r llall (heblaw am ychydig esiamplau)? Atebion ar gerdyn post os gwelwch yn dda.
Er, efallai mai dim y ffaith fy mod i’n gweld pob dydd fel un arall sy’n rhaid ei ddioddef cyn ein cwsg terfynol ydy’r broblem. Efallai mai’r ffordd dwi’n gweld y diwrnodau ydy’r broblem. Fedra i ddim helpu gweld fod y byd yn le creulon am ryw reswm. Lle sydd yn rhoi ychydig iawn o obaith neu garedigrwydd. Dwi ddim yn gwybod pam, ond dwi yn.
Efallai, os byddwn i yn meddwl fod pob diwrnod yn fendith, yn beth da, byddai pethau wedi bod yn llawer gwahanol. Ond wedi dweud hynny, os byddwn i, ni fyddwn i yma yn ysgrifennu’r pethau hyn. Felly mae’n ‘swings & roundabouts’ felly.
Diolch i ti, fyd.

Wednesday, 22 December 2010

Annwyl Fyd - X Factor A Rhif Un Nadolig


Annwyl Fyd,
“So this is Christmas, and what have you done?”, fel ganodd John Lennon yn ei gân Nadolig.
Ac mae’n wir. Beth ydym ni wedi’i wneud?
Mae’r rheswm ddewisais i'r dyfynnod yma yn hollol wahanol reswm i’w ddewis ef o’r geiriau yn y gân yna.
Ia, dwi’n sôn am rif un y Nadolig. Wel, nid hynny yn unig, dwi’n sôn am sut mae’r X Factor yn dominyddu brig y siartiau dros y Nadolig.
Os nad wyt ti wedi dyfalu erbyn hyn, dwi ddim yn hoffi’r X Factor. I ddweud y gwir dwi’n casáu unrhyw fath o sioe realiti.
Pam mod i’n casáu o? Wel, mae’n amlwg i ddweud y gwir. Ydy o? Ydy. Ydy mae o.
Y prif reswm ydy’r un peth sydd wedi achosi rhai o bobl i fod yn eithaf blin pan ysgrifennais am y brotest newydd yn erbyn enillydd yr X Factor eleni.
Ers iddo gychwyn, mae enillydd yr X Factor wastad wedi cael rhif un y Nadolig. Bob un heblaw am un, diolch i Rage Against The Machine yn ennill llynedd ac yn casglu arian i Shelter wrth wneud hynny.
Ond, er mod i’n cytuno’n llwyr gyda’r protest llynedd, efallai y dylwn i roi gorau iddi nawr. A dwi ddim yn golygu'r X Factor yn unig.
Meddylia am y peth fel hyn. Am dipyn nawr, mae enillydd yr X Factor wedi ennill rhif un y Nadolig. Llynedd, fe wnaeth hyn gythruddo rhywun i raddau a chychwynnwyd ymgyrch yn ei erbyn ac enillodd. Dydy’r flwyddyn hon ddim gwahanol gydag enillydd X Factor yn erbyn llond llaw o ganeuon eraill sydd yn ceisio diorseddu enillydd X Factor arall.
A beth fydd yn digwydd flwyddyn nesaf? Yr un peth. Pam? Wel, i mi, roedd ymgyrch llynedd yn gychwyn cylchred.
Unwaith mae’r X Factor yn cychwyn, mae rhywun yn meddwl beth fyddai’n gallu mynd yn erbyn enillydd y flwyddyn honno. Yn ystod rhan fyw'r sioe, mae’r cynlluniau i’r ymgyrchwyr yn dod yn fwy realistig. Pan fyddem yn gwybod pwy sydd wedi ennill yr X Factor, mae’r ymgyrchwyr yn ceisio codi ymwybyddiaeth o’r ymgyrch. Mae enillydd rhif un y Nadolig yn cael ei gyhoeddi, yna mae pobl yn siarad am y peth am wythnosau wedyn. Ar ôl ychydig fisoedd, mae’r peth yn ail-gychwyn eto.
Y peth ydy, nid y cylchred dwi wedi dysgu osgoi ydyw yn unig. Y ffaith fod cân yr enillydd bob tro’n ‘cover’.
Yn y gorffennol, roedd y gân oedd yn cyrraedd brig y siartiau yng nghyfnod y Nadolig wedi bod gan rywun sydd wedi ysgrifennu’r gân (y mwyafrif ohonynt). Dim ond perfformio cân sydd wedi cael ei ysgrifennu gan fand arall sydd raid i’r enillydd X Factor. Pam? Efallai fedri di ateb hynna?
A’i nid yw hyn yn ychydig yn, ti’n gwybod, ychydig fel twyllo i raddau? Yr unig beth oedd rhaid i’r boi Matt yna wneud oedd difethaf cân Biffy Clyro. Wythnos wedyn, mae’n cael rhif un y Nadolig. Pa ran o hyn sydd yn ymddangos yn deg i ti?
O, ac mewn ymateb i unrhyw un sydd yn meddwl ‘fe enillodd yr X Factor, fe weithiodd am fisoedd i ennill’. Sut? Mae’r X Factor wedi troi o fod yn gystadleuaeth canu i un o boblogrwydd, fel fersiwn cerddorol o Big Brother. Pam na allai Matt, neu bawb sydd wedi ennill y gystadleuaeth, ysgrifennu cân yr enillydd? Os bydda nhw, yna bydda gen i lawer mwy o barch iddynt na sydd gen i nawr.
Sydd yn gwneud i mi gwestiynu rhywbeth arall am yr X Factor. Pam nad yw’n cael ei ddangos yn ystod yr haf? Pam fod rhaid iddo gael ei ddangos yn ystod misoedd yr hydref a’r gaeaf? Gwerthiant? Yr unig beth mae’n wneud ydy rhoi arian ym mhoced Simon Cowell. Mae pawb yn dod i fyny ato i gael clyweliad, ac ar y diwedd mae ganddo restr o oddeutu deg act i arwyddo. Mae’r rhan fwyaf o’r arian o werthiant sengl enillydd yr X Factor yn mynd i Cowell. Felly pwy yn y pen draw ydy gwir enillydd X Factor eleni? Simon Cowell, fel pob blwyddyn arall.
Dwi’n credu fod hynna ddigon o rantio am un diwrnod, Fyd. Dyna ddiwedd arni rŵan i mi ystyried yr atebion i gwestiynau anodd, fel os byddai pengwin a chŵn efo breichiau a dwylo, pwy fydda’n ennill? Pwy a wyr…
Diolch i ti, fyd.