Annwyl Fyd,
Ga'i fynd a ti yn ôl i Awst llynedd? Caf? O, ti’n garedig iawn.
Y diwrnod cyn canlyniadau fy lefel A. Roeddwn i’n darllen fy mhorthiant Facebook i weld nifer o’r un diweddariad statws gan amryw o fy ffrindiau. Dwi ddim yn cofio beth oedd o, ond roedd y mwyafrif o’m ffrindiau yn cael panig dros eu canlyniadau, yn un ai’n ddiffyg cwsg dros eu dyfodol anhysbys, neu’n teimlo’n nerfus am y sefyllfa.
A dim ond un peth dwi’n gallu meddwl amdano.
Dim ond diwrnod arall ydyw.
Dwi’n gwybod. Bydd y pedwar gair yna wedi cael eu rhoi ar fy ngherdyn busnes, fy CV a fy ngharreg bedd. Dwi wedi’i ddweud o am y Nadolig, am fy mhen-blwydd, a nawr canlyniadau lefel A.
Iawn, mae yna rhai pethau yn fy mywyd fydd ddim yn ddiwrnod arall yn unig. Efallai byddaf yn priodi, ni fydd hynny fel unrhyw ddiwrnod arall. Mae’r un peth yn wir am enedigaeth fy mhlant (ha). Neu, a dwi’n casáu dweud hyn, marwolaeth rhywun agos. Heblaw am y digwyddiadau potensial yna, gyda dim ond un o’r sefyllfaoedd yna gellid dianc oddi wrtho, mae pob diwrnod arall yn un arall sydd raid i ni fyw drwyddo.
Ond, ar y funud hon, yn syllu i lawr gwn tair baril. Mewn un mae’r fwled wedi’i lenwi gydag ychydig o glorid. Y llall, bwled wedi’i lenwi gydag electronau yn rasio o’i gwmpas. Yr un diwethaf, bwled yn llawn sain felys aflwyddiant. Neu, os nad wyt ti wedi dyfalu bellach, mae’r siambrau a’r bwledi yn cynrychioli'r lefelau A eisteddais i – Cemeg, Ffiseg a Thechnoleg Cerddoriaeth. Os byddwn i’n pasio’n llwyddiannus, byddai’r tair siambr yn toddi i mewn i goctel o liw a sŵn. Os byddwn i’n aflwyddo, byddai pob bwled yn llenwi fy nghorff gydag anobaith ac amheuaeth. Meddyliau hapus i fachgen 18 oed.
Ond ar y diwrnod, triawd o ddos o drychineb twyll oedd o, wrth i mi ddarganfod fy mod wedi llwyddo i gael tri D yn y tri phwnc. Golygai hyn fod y tri bwled wedi’u saethu, dim ond iddynt fethu fi o nano-amedr, ac roeddwn i’n ddiogel i gerdded i mewn i’r cwrs o’m newis yn y brifysgol. Fy ffrindiau? Wel, roedden nhw’n poeni am ddim wrth iddynt gael graddau da, ond roedd lleiafrif ohonynt wedi cael trafferth i gael i mewn i brifysgol am un rheswm neu’i gilydd. Ond nid dyma’r pwynt.
Y peth ydy, ydw i’n anghywir i feddwl fod pob diwrnod sydd yn digwydd yn ddiwrnod arall yn unig? Beth rwyf yn olygu ydy, esiampl fwy diweddar ydy Dydd Calan. Roedd pawb, o Sydney i Foscow, yn dathlu genedigaeth flwyddyn newydd. Wrth i’r newyddion gyrraedd fy nheledu, syllais ar y tân gwyllt. Dim ond un peth oeddwn i'n feddwl.
Beth oedd y peth yna? Wel, nid yw’n amlwg?
Pam? Pam hyn i gyd?
Roeddwn i’n gwybod yn iawn pam. Mae pobl eisiau cael y cyfle i roi’r gorffennol tu cefn iddynt, ac edrych ymlaen at y dyfodol. A pa gyfnod gwell na pan mae calendr newydd ar wal dy dŷ? Wel, dwi’n dyfalu mai dyma beth mae pobl eisiau ei wneud, dwi ddim wedi cyfarfod pawb yn y byd i ddweud y gwir.
Am ryw reswm, roeddwn i’n gweld y diwrnod fel rheswm i bawb feddwi. A dyma ydy o, nage? Ond dwi ddim yn mynd i ddiflasu ti gyda hynna i gyd, gan dy fod di’n debyg yn gwybod beth rwyf yn feddwl o hynna o’m llythyr arall i ti. Ho hym.
Ond, fe ofynnai gwestiwn i ti, sut gallaf i gael gwared â’r ideoleg yma sydd wedi cymryd ei le yn fy ymennydd? Sut fedra i beidio meddwl fod pob diwrnod yr un mor arferol â’r llall (heblaw am ychydig esiamplau)? Atebion ar gerdyn post os gwelwch yn dda.
Er, efallai mai dim y ffaith fy mod i’n gweld pob dydd fel un arall sy’n rhaid ei ddioddef cyn ein cwsg terfynol ydy’r broblem. Efallai mai’r ffordd dwi’n gweld y diwrnodau ydy’r broblem. Fedra i ddim helpu gweld fod y byd yn le creulon am ryw reswm. Lle sydd yn rhoi ychydig iawn o obaith neu garedigrwydd. Dwi ddim yn gwybod pam, ond dwi yn.
Efallai, os byddwn i yn meddwl fod pob diwrnod yn fendith, yn beth da, byddai pethau wedi bod yn llawer gwahanol. Ond wedi dweud hynny, os byddwn i, ni fyddwn i yma yn ysgrifennu’r pethau hyn. Felly mae’n ‘swings & roundabouts’ felly.
Diolch i ti, fyd.
No comments:
Post a Comment