Wednesday, 27 October 2010

Annwyl Fyd - Guitar Hero

Annwyl Fyd,

Fel yr wyt yn gwybod, mae gemau fel Guitar Hero a Rock Band dros wyneb y ddaear yma i gyd. A dwi’n un sydd yn hoffi’r genre hyn o chwarae.
Mae’n beth difyrrus iawn. Ac nid yn ddifyrrus yn unig, ond yn addysgiadol hefyd. Efallai bod eraill yn darllen y datganiad diwethaf yna ac yn meddwl, sut? Wel, mae’n cyflwyno’r chwaraewyr i amrywiaeth o gerddoriaeth. Mae hyn wedi digwydd i mi. Er esiampl, cyn i mi chwarae fy ngêm Guitar Hero cyntaf (Guitar Hero II), doeddwn i erioed wedi clywed am artistiaid fel Cheap Trick, Buckethead a Avenged Sevenfold. Nawr, Jordan(gan Buckethead) ydy un o fy nghaneuon offerynnol gorau, tra dwi’n ffan o albwm newydd Avenged Sevenfold, Nightmare.
Nid yn unig hynny, ond mae’n cyflwyno pobl i chwarae offerynnau. Dwi’n un o’r bobl yma. Dwi wedi dechrau chwarae’r gitâr fas ar ôl chwarae’r bas o Sweet Child O’ Mine ar y dull ymarfer gan fy mod eisiau gwella yn y gêm, ond yn anfwriadol yn disgyn mewn cariad gyda sain y riffs bas yn y gân. Yn wir, dwi’n blentyn trist am gyfaddef y ffaith hon, ond mae’n profi pwynt. Byddai’r tebygrwydd ohonof yn codi gitâr bas yn annhebyg os nad oeddwn wedi chwarae ychydig o ganeuon ar ymarfer.
Ond mae un peth sydd yn drysu fi, a dwi’n galw hyn yn ‘snobyddiaeth gitâr’. Gad i mi esbonio.
Mae yna wefan – gad i ni alw fo’n Ultimate Guitar, gan mai dyna ydy ei enw – ac ar y wefan y dyddiau hyn, mae yna erthyglau am Guitar Hero a Rock Band. Ac mae’r erthyglau am y pwnc hwn, mae rhai defnyddwyr efo’r un gadwyn meddwl. Gad i mi ddyfynnu un o’r sylwadau ar yr erthygl fwyaf diweddar am Pro Mode newydd Rock Band…
"In all seriousness....IF YOU ARE A PARENT AND YOUR KID ASKS FOR THIS CRAP BUY HIM A REAL GUITAR...."
Mae’n debyg fod pobl sydd yn chwarae’r gemau fel Guitar Heroes a Rock Band yn ffyliaid, gan eu bod nhw’n treulio cymaint o amser ar y gêm pam mae’n hollol glir fod chwarae a buddsoddi amser i ddod yng ngitarydd gwych yn well.
Dwi ddim yn gwybod amdanat ti, ond dyw hyn yn gwneud dim synnwyr i mi. Gêm ydy Guitar Hero. Nid yw’n gwneud i ti feddwl gallet godi gitâr go iawn a dechrau chwarae Raining Blood gan Slayer ar ôl y tro cyntaf ti’n cael pedwar seren ar Anodd. Ynghyd â Rock Band, gêm ydyw. Pam na all gitarwyr ddeall hyn?
Allan o bob offeryn sydd ar gael i chwarae yn y gemau hyn, mae’n ymweld fel mai gitarwyr ydy’r unig grŵp o bobl sydd efo rhywbeth yn erbyn y genre gemau hwn. Mae baswyr hyd yn oed – gyda’r gitâr fas yn cael ei ddychanu fel arfer gan nad dim ond pedwar llinyn sydd arno, felly mae’n rhaid ei fod yn offeryn hawdd i ddysgu (sydd, i mi, y syniad anghywir i gael, ac os wyt ti efo’r syniad yma, gwranda ar YYZ gan Rush) – yn mwynhau gemau rhythm cerddoriaeth. Mae drymwyr hefyd yn hoffi’r gemau gan eu bod yn chwarae’r drymiau, er ei fod ar git plastig bach. Ac ia, dwi’n deall fy mod yn cyffredinoli pawb yn fan hyn, ond mae’n ymddangos fel bod y mwyafrif o bobl sydd yn meddwl yr un ffordd â’r sylwadwr uchod yng ngitarwyr. Dwi erioed wedi gweld sylwad yn dweud dysga chwarae drymiau go iawn, er dwi wedi gweld nifer o sylwadau yn dweud eu bod wedi dysgu sylfaen drymio drwy’r gemau.
Yr unig beth ofynnai, annwyl fyd, ydy pam nad all pobl ddeall fod Guitar Hero a’i berthnasau dim ond yn ceisio helpu’r gerddoriaeth mae’n ei ddal drwy hyrwyddo gwahanol fandiau, gerddoriaeth a genre i’r chwaraewr, a byddai’r byd yn le gwell os golygai mwy o bobl ifanc yn gwrando ar gerddoriaeth roc. Byddai’n annheg i mi ddweud fod cerddoriaeth gan Justin Bieber, The Saturdays a JLS ddim mor dda â hynna, ond i fi fel hyn y mae. Ond dydy’r erthygl hwn ddim am grwpiau sy’n meimio a lleisiau awto-tiwn. Mae’n ymwneud â ceisio cael pobl i ddeall fod Guitar Hero a’i frodyr ddim yn ceisio rhoi pobl dan ei sbel, ond i roi cyfle i bobl i chwarae cerddoriaeth a, yn bosib, dylanwadu nhw i godi offeryn go iawn a chwarae hwnnw hefyd.
Diolch i ti, fyd.

No comments:

Post a Comment